'Diwylliant o fwlio' yn arwain at streic sbwriel Caerdydd

binFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr undeb Unite wedi pleidleisio o blaid streicio rhwng 27 Rhagfyr a 25 Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o weithwyr adran sbwriel ac ailgylchu Cyngor Caerdydd wedi pleidleisio o blaid streicio ddiwedd mis Rhagfyr.

Fe wnaeth gweithwyr sy'n rhan o undeb Unite bleidleisio o blaid y cynlluniau i streicio am bedair wythnos am sawl rheswm, gan gynnwys "diwylliant o fwlio" o fewn yr adran.

Dywedodd Ysgrifenydd Cyffredinol yr undeb, Sharon Graham fod y bleidlais o blaid y gweithredu diwydiannol yn "dangos yn glir pa mor flin yw ein haelodau".

Dywed Cyngor Caerdydd nad oes sail i'r cyhuddiadau o fwlio.

Diffyg gweithredu gan Gyngor Caerdydd

Mewn mandad newydd, mae Cyngor Caerdydd wedi ei gyhuddo o fethu delio a bwlio gan reolwyr a goruchwylwyr.

Mae'r mandad yn rhestru'r rhesymau y tu ôl i benderfyniad gweithwyr Unite i streicio.

Mae'r gweithwyr yn honni nad yw'r cyngor wedi eu digolledu am yr argyfwng costau byw ac wedi methu gweithredu polisïau'r cyngor yn gyson.

Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru: "Mae arweinyddiaeth Cyngor Caerdydd wedi gwneud dim i fynd i'r afael â chwynion ein haelodau."

"Mae Unite wedi codi sawl mater difrifol iawn ynghylch diwylliant eang o fwlio o fewn yr adran sbwriel ac ailgylchu".

Dywedodd Mr Hughes fod gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas y pŵer i ddatrys "pryderon ein haelodau ac i atal streiciau pellach."

'Dim sylwedd o gwbwl i'w honiadau'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â chwynion am fwlio, mae gweithwyr yn streicio gan nad yw'r cyngor wedi ymateb i effaith yr argyfwng costau byw

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: " Mae'r cyngor yn gweld penderfyniad Unite i streicio eto yn un siomedig, ac rydym yn ansicr beth mae'r undeb yn gobeithio ei gyflawni drwy streicio".

"Mae'r honiadau yma [o fwlio] yn cyfeirio at gwynion a gafodd eu codi â'r cyngor dros flwyddyn yn ôl."

Fe gytunodd y Cyngor i adolygiad annibynnol ar y pryd, ond ni ddaeth o hyd i unrhyw sylwedd i'w honiadau.

"Bydd y Cyngor yn parhau i fod ar gael i gyfarfod gydag Unite, fel rydym wedi bod dros y misoedd diwethaf, i geisio dod â'r anghydfod i ben ac i osgoi unrhyw darfu ar drigolion"

Yn dilyn ymgysylltiad gyda holl brif undebau masnach, mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig adolygiad o'u taliadau, yn ogystal ag ymrwymiad i weithio trwy faterion yn ymwneud â thal, ac i wneud newidiadau i bolisi Gwaith Teg y Cyngor.

Mae gweithwyr undeb Unite wedi bod yn gweithredu'n ddiwydiannol am 12 wythnos yn ystod yr hydref.

Bydd y streic nesaf yn digwydd rhwng 28 Rhagfyr a 25 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig