Ystyried dymchwel gwesty fu'n llety i Lennon ac Ono dros bryder diogelwch

Peiriannau trwm a sgaffaldiau yn amgylchynu'r Corbett Arms
Disgrifiad o’r llun,

Mae peiriannau trwm a sgaffaldiau bellach o amgylch y Corbett Arms yn Nhywyn

  • Cyhoeddwyd

Fe allai gwesty glan môr nodedig a fu'n llety i John Lennon ac Yoko Ono gael ei ddymchwel oherwydd pryderon dros ei gyflwr.

Mae'r Corbett Arms yn Nhywyn, Meirionnydd, wedi'i restru ac yn adeilad amlwg ar stryd fawr y dref ers ganol y 19eg ganrif.

Ond bellach mewn cyflwr sy'n dirywio'n gyflym, mae ymdrechion hyd yma i wirio'i berchnogaeth a gorfodi gwaith trwsio brys wedi methu.

Yn dilyn sawl ymdrech aflwyddiannus i ganfod y perchennog, mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cais i gynnal gwaith dymchwel ar y cyn-westy 50 ystafell.

John Lennon, Julian Lennon, Kyoko Ono, Yoko Ono yn Yr Alban, 1969Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth John Lennon a Yoko Ono dreulio noson yn y Corbett Arms ym Mehefin 1969 gyda'u plant, Julian a Kyoko

Yn ôl yr awdudrod maen nhw wedi cyhoeddi 11 rhybudd i geisio gorfodi gwaith atgyweirio, ond mae gwaith dymchwel brys bellach yn debygol er mwyn gwarchod diogelwch y cyhoedd.

Ond er bod rhai o drigolion Tywyn yn derbyn tynged yr adeilad, mae eraill yn parhau i fod â gobaith o achub y gwesty oedd unwaith yn un moethus a mawreddog.

Mae'n hysbys bod John Lennon a Yoko Ono wedi aros yn y Corbett Arms yn haf 1969, fel rhan o wyliau gyrru i'r Alban y flwyddyn honno.

Hefyd gyda nhw ar y daith oedd Julian, mab chwech oed Lennon, a merch bump oed Ono, Kyoko Cox.

Yn ôl llên gwerin lleol roedden nhw wedi cael eu gwrthod gan westy arall, Gwesty'r Trefeddian yn Aberdyfi, cyn treulio'r noson yn Nhywyn.

Stephen Ellis yn sefyll o flaen y Corbett Arms
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Ellis: "'Da ni wedi cael cymaint o nosweithiau da yna, ac i feddwl bod o'n mynd i fynd... does dim gwybod be' gawn ni yn ei le o"

Yn ôl Stephen Ellis, sydd wedi byw yn Nhywyn ar hyd ei oes ac yn fab i gyn-gyfrifydd y gwesty, mae'n poeni bod rhannau o dreftadaeth y dref yn diflannu.

"Mae'n reit ddigalon i ddweud y gwir, hotel sydd wedi bod mor brysur dros y blynyddoedd 'di cael ei adael i fynd," meddai.

"'Da ni wedi cael cymaint o nosweithiau da yna, ac i feddwl bod o'n mynd i fynd... does dim gwybod be' gawn ni yn ei le o."

Ychwanegodd: "Mae'n ddiwedd ar hanes y dref wedyn... mae'r dref yn mynd lawr rhiw yn fast.

"Dydi tai ddim gwerth yn Tywyn, gwaith 'da ni isio yma, dim pwynt buildio tai i yrru pobl yma i fynd ar y dôl.

"Neu fel arall, parc fasa'n reit neis... just rhywbeth i'r dref."

'Deall pryderon y gymuned leol'

Yn 1951 dyfarnwyd statws rhestredig Gradd II i'r Corbett Arms.

Ond yn ddolur llygad ers cau dros ddegawd yn ôl, fe gafodd deiseb ei harwyddo gan dros 1,800 o bobl yn 2020 yn galw ar y cyngor i brynu'r gwesty yn orfodol.

Erbyn 2024 roedd y gwesty wedi ei ychwanegu at restr SAVE Britain's Heritage o'r adeiladau sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain.

Y Corbett Arms yn 2012Ffynhonnell y llun, Jeremy Bolwell, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Corbett Arms wedi bod yn adeilad amlwg ar stryd fawr Tywyn yn ne Meirionnydd (yma yn 2012)

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi disgrifio'r Corbett Arms fel adeilad "o bryder i'r gymuned leol yn Nhywyn ers peth amser", ac yn dweud bod ei gyflwr wedi gwaethygu'n gyflym dros y misoedd diwethaf.

Tynnodd yr awdurdod sylw at "gwymp sylweddol" yng nghefn yr adeilad ddiwedd Ionawr, gyda tho'r ystafell ddawns hefyd wedi syrthio ddiwedd mis Chwefror.

Mae sgaffaldiau bellach wedi'u gosod i ddiogelu'r adeilad, gyda cais ar y gweill am ganiatâd adeilad rhestredig i gwblhau gwaith dymchwel.

"Rydym yn deall arwyddocâd yr adeilad hanesyddol hwn a phryderon y gymuned leol," meddai Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd, Gareth Jones.

"Yn anffodus, mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio i'r pwynt lle mae rhaid gweithredu ar unwaith i amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd."

Cefn y Corbett Arms wedi dymchwelFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o gefn y Corbett Arms eisoes wedi dechrau cwympo

Ond mae eraill yn dadlau bod dal gobaith o achub yr adeilad.

Dywedodd SAVE Britain's Heritage eu bod wedi comisiynu peiriannydd arbenigol i astudio'r adeilad, ond heb gael mynediad i'r tu fewn, gan ddod i'r casgliad nad oes cyfiawnhad i ddymchwel yr holl adeilad.

Dywedodd Henrietta Billings, cyfarwyddwr yr elusen, y dylai Cyngor Gwynedd ystyried pob dewis cyn dymchwel y Corbett Arms.

"Mae Gwesty'r Corbett Arms yn ganolbwynt y dref ac wedi'i wreiddio yn y gymuned," meddai.

"Mae'n ddychrynllyd ei fod wedi'i adael i ddirywio ers cymaint o amser.

"Rydym yn apelio ar y cyngor i weithio gyda busnesau lleol i ddod o hyd i ddyfodol newydd i'r gwesty hwn yn hytrach na'i wastraffu.

"Fe allai unwaith eto fod yn sbardun economaidd i'r dref, gan ddarparu swyddi lleol a llety i ymwelwyr."

'Mae pobl yn drist'

Yn ôl y cynghorydd tref, Marisa O'Hara, mae dyfodol y Corbett Arms yn bwnc llosg yn Nhywyn.

"Mae rhai pobl yn dweud ei fod yn amser iddo ddod i lawr, rhai yn dweud ei fod yn drist... we should have done something, ac rhywun arall yn dweud bod rhywun am ei brynu o.

Y Cynghorydd Marisa O'Hara ar stryd fawr Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Marisa O'Hara yn dweud bod dyfodol y Corbett Arms wedi bod yn destun siarad mawr yn lleol

"Oedd pobl yn priodi yno a cynnal partïon, oedd o'n le andros o dda.

"Does na'm lle arall fel'na yma o gwbl... mae pobl yn drist i ddweud y gwir.

"Ond mae'n cwympo lawr ac end of an era ydy o.

"Dwi ddim yn structural engineer ond dwi'n gwrando ar be' mae pawb yn ddweud, a Cyngor Gwynedd, a rhaid i ni fynd gyda nhw ynde."

Ond er nad yw maer y dref a'r cynghorydd sir lleol "eisiau i unrhyw beth ddod i lawr", mae'n ofni bod y gwesty mewn cyflwr rhy wael i'w achub.

"Mae'n adeilad pwysig iawn ac mae wedi bod yn le gwych... mae'n golled trist i adael iddo bydru fel hyn", meddai'r Cynghorydd John Pughe.

"Mae Cyngor Gwynedd a ninnau [Cyngor Tref Tywyn] yn cael enw drwg oherwydd rhywbeth does ganddon ni ddim awdurdod drosto... mae'n eiddo preifat.

"Tua thair blynedd yn ôl fe aethon ni i mewn i edrych ar yr adeilad gyda'r heddlu ac mae'n debyg ei fod yn ymarferol i'w achub bryd hynny.

"Ond rŵan mae dŵr wedi dod i mewn ar y waliau tu fewn... ac mae'r cefn wedi dod i lawr.

Y Cynghorydd John Pughe yn sefyll o flaen y Corbett Arms
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r Cynghorydd John Pughe yn ffyddiog bod modd achub rhannau helaeth o'r adeilad

"Ar ddiwedd y dydd mae diogelwch y cyhoedd yn bwysicach... ond os ellir ei gadw, hyd yn oed y ffasâd, ddigon teg, ond os oes rhaid iddo ddod i lawr mae'n rhaid iddo ddod i lawr.

"Os fysech yn gallu cadw'r ffasâd mi allwch chi godi fflatiau, 'da ni angen llawer o dai yn yr ardal, fel llawer o lefydd."

'Dim dewis ond cyflwyno cais'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd "nad oedd dewis" ond cyflwyno cais byddai'n cynnwys gwaith dymchwel i Cadw, proses mae'n nhw'n dweud sy'n "bwrw ymlaen".

"Yn sgil y gwaith monitro parhaol o'r adeilad, bu'n rhaid cymryd camau brys i gau Stryd Maengwyn, Sgwâr Corbett a Stryd y Llew Coch i draffig dros-dro o 17 Ebrill ymlaen.

"Rhagwelir y gall y ffordd fod ar gau am 8 i 12 wythnos ond bydd hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd."

Dywedodd y llefarydd bod "cyflwr yr adeilad wedi dirywio i'r pwynt lle mae rhaid gweithredu ar unwaith i amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd", a'u bod wedi penodi cwmni arbenigol i arwain ar y gwaith.

"Yn dilyn y gwaith dymchwel brys a rhannol i gefn yr adeilad, bydd y cyngor yn parhau i asesu gweddill yr adeilad, cyn ystyried unrhyw gamau pellach a hynny gan roi ystyriaeth i gyflwr strwythurol a statws rhestredig yr adeilad.

"Nid yw'r cyngor yn berchen yr adeilad nac yn bwriadu cymryd camau i brynu'r adeilad, ac rydym yn gweithredu ar gamau statudol i ddiogelu'r cyhoedd.

"Os oes rhywun gyda diddordeb mewn prynu'r adeilad, yna dylent ystyried cysylltu gyda chynrychiolwyr y perchennog am hyn ac nid y cyngor."