Y cyfreithiwr a'r ymgyrchydd Michael Jones wedi marw

Roedd Michael Jones yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfreithiwr a'r ymgyrchydd dros addysg Gymraeg, Michael Jones, wedi marw yn 82 oed yn dilyn salwch byr.
Roedd yn gyfreithiwr mygedol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) ac yn sylfaenydd cwmni cyfreithiol Huw James, Jones a Jenkins - cwmni Huw James bellach.
Bu'n gyfreithiwr amlwg mewn sawl achos mawr, gan gynnwys cynrychioli nifer o ddioddefwyr achosion Sul y Blodau.
Bu hefyd yn llywodraethwr Ysgol Glantaf am dros chwarter canrif.
Roedd yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg a bu'n helpu i sicrhau bod nifer fawr o ysgolion Cymraeg yn cael eu hagor ledled y de.
Roedd hefyd yn aelod o'r comisiwn a fu'n paratoi rheolau sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn 2002 bu'n traddodi darlith yn Eisteddfod Sir Benfro ar gyfansoddiad y Cynulliad.
'Ymgyrchu'n hir a llwyddiannus'
Cafodd ei fagu yn Sgiwen gan fynychu Ysgol Ramadeg y bechgyn yng Nghastell-nedd yn y 1950au.
Yn 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn cafodd ei anrhydeddu â'r wisg las.
Nodwyd ei fod "wedi gweithio'n ddiflino dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol, gan ymgyrchu'n hir a llwyddiannus i ehangu addysg Gymraeg yn y brifddinas ac ymladd dros ymgyrchoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd".
"Mae'n adnabyddus iawn ym myd y gyfraith yma yng Nghymru, ac wedi gweithio ar nifer o achosion llys sy'n ymwneud â'r iaith."
Roedd yn briod â'r ddiweddar Ethni Jones.
Mae'n gadael pedwar o blant a chwech o wyrion.
'Un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg'
Un fu'n gweithio'n agos â Michael Jones ar sawl achlysur oedd yr ymgyrchydd iaith a chyn-gadeirydd cenedlaethol RhAG, Heini Gruffudd.
Wrth roi teyrnged iddo ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Mr Gruffudd ei fod yn "un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg".
"Bydden i'n ei ddisgrifio fe fel tipyn o gawr a hefyd corwynt," meddai.
Bu Heini yn ei gwmni yn aml yn trafod y Gymraeg o fewn addysg, a dywedodd fod gan Mr Jones "ddawn dadlau ryfeddol" wrth frwydro dros y Gymraeg.
"Bydde fe'n gwybod ei ffeithiau i'r dim, yn gwybod sut i ddadlau, yn ymwybodol iawn o'r annhegwch.
"Oedd e wedi ei yrru gan y syniad o anghyfiawnder a gweld y Gymraeg yn ennill ei lle."
Ychwanegodd fod Michael Jones wedi "cyfrannu'n rhyfeddol i dwf addysg Gymraeg".