Dilynwch etholiad y Cynulliad gyda BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi datgelu'r sylw fydd yn cael ei roi i ymgyrch etholiad y Cynulliad gyda rhaglenni teledu, radio a gwasanaethau ar-lein oll ar flaen y gad.
Bydd y darlledwr yn cael barn y bobl yn yr etholaethau mewn cyfres o ddigwyddiadau ym mis Ebrill.
Bydd BBC One Wales, S4C, Radio Cymru a Radio Wales yn rhoi sylw cynhwysfawr, wedi'i arwain gan dîm o gyflwynwyr a gohebwyr arbenigol.
Dywedodd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Mark O'Callaghan: "Yn y cyfnod yn arwain at 5 Mai, bydd ein timau ar y lôn, gan ddod a phob math o bobl at ei gilydd ynghyd â'r ymgeiswyr i danio â thrafodaeth."
Dyddiadau a lleoliadau ar gyfer taith yr etholiad y BBC, fydd ar agor o 07:00:
Dydd Llun, 18 Ebrill: Sgwâr y Castell, Hwlffordd
Dydd Mercher, 20 Ebrill: Tu allan Y Plas, Machynlleth
Dydd Gwener, 22 Ebrill: Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Dydd Llun, 25 Ebrill: Tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr, Caerffili
Dydd Mercher, 27 Ebrill: Yr Aes, Caerdydd
Dydd Gwener, 29 Ebrill: Gerddi Southend, Y Mwmbwls
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd ymweld â'r safleoedd darlledu i gwrdd â chyflwynwyr BBC Cymru a dweud eu dweud ar bynciau llosg lleol a chenedlaethol.
Dadleuon
Ar 27 Ebrill bydd Huw Edwards yn cyflwyno The BBC Wales Leaders' Debate yn fyw o Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Bydd y rhaglen yn fyw ar BBC One Wales a sianel BBC News am 20:30.
Mae arweinwyr Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru, UKIP yng Nghymru a'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi eu gwahodd i gymryd rhan.
Bydd Pawb a'i Farn ar S4C hefyd yn cynnal tair dadl etholiadol wedi eu cyflwyno gan Dewi Llwyd yn Aberystwyth (14 Ebrill), Llandudno (21 Ebrill) ac Abertawe (28 Ebrill).
Bydd darlledu cynhwysfawr o'r canlyniadau dros nos ar 5 a 6 Mai, gyda Bethan Rhys Roberts a Nick Servini yn cyflwyno'r rhaglen ganlyniadau ar BBC One Wales, tra bydd Dewi Llwyd a Vaughan Roderick yn cyflwyno'r arlwy ar S4C.