Dilynwch daith etholiad y BBC o amgylch Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Leanne Wood, Kirsty Williams a Nathan Gill

Mae BBC Cymru ar daith am y pythefnos nesaf wrth i ymgyrch etholiad y Cynulliad brysuro, gyda llai na thair wythnos tan y diwrnod tyngedfennol ar 5 Mai.

Bydd holl raglenni a gwasanaethau newyddion BBC Cymru yn ymuno â'r daith o etholaethau allweddol.

Yn ogystal â darlledu'n fyw o'r lleoliadau, bydd newyddiadurwyr y BBC yn holi etholwyr.

Mae'r daith yn dechrau yn Hwlffordd ddydd Llun, cyn teithio i Fachynlleth, Wrecsam, Caerffili a Chaerdydd cyn gorffen yn y Mwmbwls ddydd Gwener nesaf.

line break

Dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y daith, fydd yn cychwyn am 07:00:

  • Dydd Llun, 18 Ebrill: Sgwâr y Castell, Hwlffordd

  • Dydd Mercher, 20 Ebrill: Tu allan Y Plas, Machynlleth

  • Dydd Gwener, 22 Ebrill: Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

  • Dydd Llun, 25 Ebrill: Tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr, Caerffili

  • Dydd Mercher, 27 Ebrill: Yr Aes, Caerdydd

  • Dydd Gwener, 29 Ebrill: Gerddi Southend, Y Mwmbwls

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd ymweld â'r safleoedd darlledu i gwrdd â chyflwynwyr BBC Cymru a dweud eu dweud ar bynciau llosg lleol a chenedlaethol.

line break

Dadleuon

Taith etholiad

Yn ogystal â'r daith, mae nifer o ddadleuon gwahanol wedi'u trefnu cyn yr etholiad ar 5 Mai.

Ar 27 Ebrill bydd Huw Edwards yn cyflwyno The BBC Wales Leaders' Debate yn fyw o Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Bydd y rhaglen yn fyw ar BBC One Wales a sianel BBC News am 20:30.

Mae arweinwyr Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru, UKIP yng Nghymru a'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi eu gwahodd i gymryd rhan.

Bydd Pawb a'i Farn ar S4C hefyd yn cynnal tair dadl etholiadol wedi eu cyflwyno gan Dewi Llwyd yn Aberystwyth (14 Ebrill), Llandudno (21 Ebrill) ac Abertawe (28 Ebrill).

Bydd darlledu cynhwysfawr o'r canlyniadau dros nos ar 5 a 6 Mai, gyda Bethan Rhys Roberts a Nick Servini yn cyflwyno'r rhaglen ganlyniadau ar BBC One Wales, tra bydd Dewi Llwyd a Vaughan Roderick yn cyflwyno'r arlwy ar S4C.