ACau yn cwrdd i drafod cytundeb Llafur-Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynigion sy'n ceisio sicrhau y bydd prif weinidog newydd yn cael ei enwebu yn cael eu rhoi gerbron ACau Llafur a Phlaid Cymru mewn cyfarfodydd grŵp ar wahân.
Daw hyn yn dilyn trafodaethau sydd wedi para deuddydd rhwng y ddwy blaid.
Dywedodd datganiad ar y cyd neithiwr fod y trafodaethau ynglŷn â dewis Prif Weinidog nawr ar ben, a bod "pethau wedi symud yn eu blaen yn dda".
Mae lle i gredu, pe bai'r cynigion yn cael eu derbyn gan y ddwy blaid, y bydd y Cynulliad yn ail gwrdd ddydd Mercher er mwyn enwebu Prif Weinidog.
Mae UKIP wedi cadarnhau y bydden nhw'n enwebu ymgeisydd ar gyfer y brif swydd os bydd pleidlais bryd hynny.
Ond dyw hi ddim yn glir os mai arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, fydd y person hwnnw.
Mae gan Aelodau'r Cynulliad tan 1 Mehefin i benodi Prif Weinidog neu bydd angen cynnal etholiad arall.
Mae gan Lafur 29 aelod yn y Cynulliad newydd, gyda chyfanswm y gwrthbleidiau yn 31.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth 29 gefnogi Carwyn Jones o'r blaid Lafur i fod yn brif weinidog, gyda 29 o blaid arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Y gred yw y bydd Llafur yn ffurfio llywodraeth leiafrifol.