Ceidwadwyr yn ffraeo dros gynrychiolydd ar ddadl deledu
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi tanio ymysg y Torïaid wedi iddi ddod i'r amlwg na fydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies nac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cymryd rhan yn nadl arweinwyr BBC Cymru nos Fawrth.
Yn hytrach, llefarydd addysg y blaid Darren Millar AC fydd yn cynrychioli'r Torïaid.
Mae Mr Davies a Mr Cairns wedi rhoi rhesymau gwahanol ynglŷn â pham na fyddan nhw'n cymryd rhan yn y ddadl.
Bydd Mr Millar yn ymuno â'r arweinwyr eraill, Carwyn Jones o'r Blaid Lafur, Leanne Wood o Blaid Cymru, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams, a Neil Hamilton o UKIP ar y rhaglen.
'Rhesymau personol'
Mae'r cyhoeddiad mai Mr Millar fydd yn cymryd rhan yn y ddadl wedi tanio ffrae fewnol o fewn y blaid, gyda honiadau gwahanol yn cael eu gwneud yn breifat ynglŷn â sut wnaed y penderfyniad.
Dywedodd Mr Cairns mai'r bwriad wastad oedd mai Mr Davies fyddai'n cymryd rhan.
Ond mynnodd Mr Davies fod hynny ar amod mai'r un person fyddai'n cynrychioli'r Ceidwadwyr ym mhob rhaglen etholiadol, rhywbeth sydd heb ddigwydd.
Mr Davies wnaeth gynrychioli'r Torïaid yn y ddadl deledu cyntaf ar ITV, ond yna fe wnaeth y blaid gyflwyno enw Mr Cairns ar gyfer rhaglen Ask The Leader BBC Cymru.
Dywedodd Mr Cairns wrth raglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2 mai "y bwriad erioed" oedd mai Mr Davies fyddai'n cynrychioli'r Ceidwadwyr yn yr ail ddadl deledu.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru nad oedd e "fyth" yn mynd i fod yn rhan o'r rhaglen, ond ei fod yn hyderus y byddai Mr Millar yn gwneud "jobyn gwych".
"Rydyn ni wedi dewis ein cyfarwyddwr polisi [Mr Millar] gan ei bod hi'n ddadl rhwng aelodau Cynulliad," ychwanegodd.
'Ddim yn fodlon'
Mae'n debyg bod Mr Davies ar ei wyliau ar hyn o bryd, ac felly ddim ar gael i gymryd rhan yn y ddadl.
Dywedodd llefarydd ar Mr Davies fod Mr Cairns "ddim yn fodlon cymryd rhan yn y dadleuon etholiadol", ac felly ei fod e wedi cytuno i wneud - ar yr amod mai'r un ymgeisydd fyddai'n ymddangos bob tro.
"Gan fod Alun wedi bod yn fodlon cymryd rhan yn y rhaglenni Ask the Leader, roedd Andrew yn teimlo nad oedd angen mwyach iddo ddychwelyd o ddathlu pen-blwydd ei briodas er mwyn gwneud y ddadl," meddai.
"Roedd hi'n rywfaint o syndod nad yw Alun yn cymryd rhan heno ond bydd Darren, ein cyfarwyddwr polisi, yn gwneud swydd wych."
Y ddadl deledu fyw nos Fawrth fydd yr olaf rhwng yr arweinwyr yng Nghymru cyn yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Fe ofynnodd BBC Cymru i'r prif bleidiau gwleidyddol enwebu arweinydd i gymryd rhan yn nadl yr arweinwyr.
"Y blaid sy'n dewis ei chynrychiolydd ac yn yr achos hwn, fe enwebodd y Blaid Geidwadol Darren Millar AC."
'Amarch anhygoel'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y penderfyniad yn un "anhygoel".
"Mae'n dangos amarch anhygoel at bobl Cymru nad yw Ysgrifennydd Cymru nac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gallu trafferthu dod i ddadl yr arweinwyr," meddai.
"Fe fydda i yno achos mae gen i barch at bobl Cymru."
Dywedodd Plaid Cymru fod y Ceidwadwyr yn "trin democratiaeth gyda dirmyg", a bod y blaid wedi bod yn "osgoi unrhyw graffu" yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
"Mae ganddyn nhw ddewis o dri 'arweinydd' a does dim un ohonyn nhw yn dod i'r ddadl heno," meddai llefarydd ar ran y blaid.
Yn ôl UKIP roedd hi'n "od" fod y blaid wedi penderfynu disodli eu harweinydd ar gyfer dwy ddadl, gan holi a oedd hynny'n golygu cwestiynau ynglŷn ag arweinyddiaeth Mr Davies.
Honnodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod Mr Davies yn "ceisio osgoi bod y Ceidwadwr nesaf i gael perfformiad trychinebus ar y teledu".
Newid
Yn 2015 fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Stephen Crabb gynrychioli'r Ceidwadwyr yn y dadleuon, gyda'r ysgrifennydd Cymru cysgodol, Owen Smith, yno ar ran Llafur.
Dywedodd Mr Jones ei fod e'n cymryd rhan eleni - yn hytrach na'r ysgrifennydd Cymru cysgodol, Christina Rees - oedd am fod newid i'r rheolau yn gynharach eleni yn golygu ei fod bellach wedi'i benodi'n swyddogol fel arweinydd Llafur Cymru.
Y prif bwnc trafod pan gafodd dadl deledu rhwng arweinwyr Cymru ei darlledu ar ITV yn gynharach mis Mai oedd Brexit.
Bydd y rhaglen nos Fawrth yn cael ei darlledu'n fyw o Gaerdydd am 20:30, a bydd y ddadl yn cael ei llywio gan y darlledwr Huw Edwards.
Carwyn Jones - Llafur
Mae Carwyn Jones wedi cynrychioli etholaeth Pen-y-bont yn y Cynulliad ers 1999, ac wedi bod yn aelod o'r cabinet ers 2000.
Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n weinidog dros yr amgylchedd, addysg, a phrif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, cyn dod yn brif weinidog yn 2009 yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan.
Wnaeth Mr Jones ddim cefnogi unrhyw ymgeisydd ym mrwydr arweinyddol Llafur yn 2015, ond er ei fod yn llugoer ei gefnogaeth i Jeremy Corbyn mae hefyd wedi beirniadu ASau Llafur sydd wedi bod yn agored eu beirniadaeth ohono.
Er nad yw'n ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol eleni, Mr Jones yn hytrach na Mr Corbyn sydd wedi bod yn ganolog i ymgyrch y blaid Lafur yng Nghymru.
Darren Millar - Ceidwadwyr
Bu Darren Millar yn gweithio fel cyfrifydd cyn cael ei ethol i'r Cynulliad yn 2007 fel AC dros Orllewin Clwyd.
Yn Gristion ymroddedig, ar hyn o bryd mae'n lefarydd i'r Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, ar ôl bod yn lefarydd iechyd gynt.
Bu hefyd yn cadeirio pwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad, gan feirniadu achosion o Lywodraeth Cymru yn gwerthu tir cyhoeddus i godi arian ar gyfer adfywio, a honni fod y trethdalwyr wedi colli allan ar arian.
Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad roedd Mr Millar yn gynghorydd yn Sir Conwy, ac yn 24 roedd yn faer yn ardal Towyn a Bae Cinmel ble cafodd ei fagu.
Leanne Wood - Plaid Cymru
Pan gafodd Leanne Wood ei hethol yn arweinydd Plaid Cymru yn 2012, hi oedd y ddynes gyntaf i arwain y blaid, y cyntaf oedd ddim yn rhugl yn y Gymraeg, a'r cyntaf o du allan i gadarnleoedd Plaid yn y gogledd a'r gorllewin.
Dechreuodd gyrfa'r cyn-swyddog prawf fel ymchwilydd i Jill Evans ASE, cyn cael ei hethol i'r Cynulliad yn 2003 fel AC rhanbarthol dros Ganol De Cymru.
Daeth i sylw pobl ar draws y DU yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf, cyn llwyddo i ennill sedd y Rhondda yn etholiad Cynulliad 2016 wrth drechu'r cyn-weinidog Llafur, Leighton Andrews.
Dyw hi ddim yn sefyll yn yr etholiad eleni, er gwaethaf sôn y gallai hi wneud yn y Rhondda - ond a fydd ei phlaid yn llwyddo i ennill seddi ychwanegol eleni, yn wahanol i 2015?
Mark Williams - Democratiaid Rhyddfrydol
Cafodd Mark Williams ei eni yn Sir Hertford, cyn symud i Gymru yn 1984 i astudio gwleidyddiaeth yn Aberystwyth.
Roedd yn ymchwilydd i'r AS Rhyddfrydol, Geraint Howells cyn gweithio fel athro am gyfnod, ac yna cael ei ethol i San Steffan yn 2005 pan gipiodd sedd Ceredigion oddi ar Blaid Cymru.
Arhosodd fel AS ar y meinciau cefn wrth i'w blaid fynd i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr yn 2010, a fe oedd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol o Gymru i gael ei ailethol yn 2015.
Yn 2016 cafodd ei enwi'n arweinydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi i Kirsty Williams gamu o'r neilltu yn dilyn yr etholiadau'r Cynulliad.
Neil Hamilton - UKIP
Cafodd Neil Hamilton ei eni yn Sir Fynwy, ac fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod yn Sir Gâr, cyn astudio yn Aberystwyth ac yna dod yn gyfreithiwr.
Roedd yn AS Ceidwadol dros sedd Tatton rhwng 1983 ac 1997, ac yn weinidog yn llywodraeth John Major, cyn colli ei sedd yn dilyn sgandal "arian am gwestiynau".
Bu ef a'i wraig Christine yn wynebau cyfarwydd ar y teledu am gyfnod, cyn iddo ddychwelyd i fyd gwleidyddiaeth ar ôl cael ei ethol i'r Cynulliad i gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae bellach yn arwain grŵp UKIP yn y Senedd, ond mae wedi bod yn ffigwr dadleuol ac wedi denu cwynion am rai o'i sylwadau yn y Siambr.