Seddi Laura McAllister i'w gwylio

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Athro Laura McAllister wedi bod yn bwrw golwg i BBC Cymru Fyw ar y seddi allweddol i bob un o'r pleidiau yn yr etholiad cyffredinol.

Dyma gasgliad o'i seddi diddorol ar gyfer pob plaid.

UKIP

Mae'r Athro McAllister dweud nad yw hi'n argoeli'n dda i UKIP o ran ennill unrhyw seddi yng Nghymru.

Ond fe allan nhw fod yn gystadleuol mewn sawl etholaeth yng nghymoedd y de, gan gynnwys Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Torfaen.

Disgrifiad,

Seddi Laura McAllister i'w gwylio: UKIP

Plaid Cymru

I Blaid Cymru y disgwyl yw y byddan nhw'n dal eu gafael ar y tair sedd sydd ganddyn nhw eisoes, meddai, yn enwedig ar ôl canlyniadau da'r etholiadau lleol.

Fe fyddan nhw felly yn troi eu sylw at y seddi ychwanegol y gallen nhw eu hennill, gan gynnwys Ynys Môn.

Bydd y blaid hefyd yn gobeithio am berfformiad cryf mewn etholaethau yng nghymoedd y de fel Rhondda a Blaenau Gwent, ble wnaethon nhw'n dda yn etholiad y Cynulliad.

Disgrifiad,

Seddi Laura McAllister i'w gwylio: Plaid Cymru

Democratiaid Rhyddfrydol

I'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'n rhagweld etholiad anodd, fyddai'n debygol o gael ei weld fel llwyddiant os ydyn nhw'n ennill unrhyw seddi ychwanegol.

Bydd y blaid yn sicr yn canolbwyntio ar gadw Ceredigion, yr unig sedd sydd ganddyn nhw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Tu hwnt i hynny, bydd y blaid yn brwydro'n galed i geisio adennill Canol Caerdydd, tra bod Brycheiniog a Maesyfed yn sedd arall yr oedd ganddyn nhw tan yn ddiweddar.

Disgrifiad,

Seddi Laura McAllister i'w gwylio: Democratiaid Rhyddfrydol

Ceidwadwyr

Bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio ennill tir eleni, meddai, yn dilyn ffigyrau calonogol yn y polau piniwn yn ogystal â chanlyniadau cryf yn yr etholiadau lleol.

Fe fyddan nhw'n bendant yn targedu seddi Llafur yn y de fel Pen-y-bont yn ogystal â rhai yn y gogledd ddwyrain fel Wrecsam, meddai'r Athro McAllister.

Ond bydd rhaid iddyn nhw hefyd fod yn ofalus wrth amddiffyn seddi lle mae ganddyn nhw fwyafrif bychan, megis Gŵyr.

Disgrifiad,

Seddi Laura McAllister i'w gwylio: Y Ceidwadwyr

Llafur

Mae'n edrych fel brwydr galed i'r blaid Lafur eleni, meddai, wrth i'r polau piniwn ragdybio y gallan nhw golli dros hanner dwsin o seddi yng Nghymru.

Gallai nifer o'u seddi yn yng nghoridor yr M4 fod yn y fantol, gan gynnwys rhai fel Pen-y-bont a Gorllewin Casnewydd yn y fantol.

Mae'r Athro McAllister hefyd yn credu y byddan nhw'n wynebu brwydr i ddal eu gafael ar etholaethau yn y gogledd ddwyrain fel De Clwyd.

Disgrifiad,

Seddi Laura McAllister i'w gwylio: Llafur