Arweinydd UKIP Paul Nuttall yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Paul Nuttall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul Nuttall 3,308 o bleidleisiau yn etholaeth Boston and Skegness - dros 10,000 yn llai na chyfanswm UKIP yno yn 2015

Mae arweinydd UKIP, Paul Nuttall wedi ymddiswyddo yn sgil canlyniadau'r etholiad cyffredinol.

Dim ond 1.8% o'r bleidlais ar draws y DU gafodd y blaid, o'i gymharu â 12.6% yn 2015.

Ar noson wael iawn i'r blaid, fe gollon nhw hefyd eu hunig sedd.

Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, y byddai'n hoffi gweld Nigel Farage yn arwain y blaid unwaith eto.

Fe fydd Pete Whittle, aelod o Gynulliad Llundain, yn camu i esgidiau'r arweinydd am y tro.

Dywedodd Mr Nuttall bod UKIP "angen ffocws newydd a syniadau newydd" ond ei fod yn "hyderus" bod 'na ddyfodol i'r blaid.

Roedd cwymp y blaid yng Nghymru yn debyg i'r patrwm ar lefel Brydeinig, gyda'r blaid yn ennill 2% o'r bleidlais, o'i gymharu â 13.6% yn 2015.