Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru yn disgwyl eu tynged
- Cyhoeddwyd
Ddeuddydd wedi'r etholiad cyffredinol mae Ceidwadwyr llywodraeth Theresa May yn disgwyl i weld a fyddant yn cael parhau yn y cabinet.
Er i Mrs May golli ei mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol, mae hi yn parhau yn brif weinidog gyda chefnogaeth y DUP o Ogledd Iwerddon.
Llwyddodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a'r gweinidog, Guto Bebb i gadw eu seddi ym Mro Morgannwg ac Aberconwy.
Hefyd llwyddodd Gwenidog Brexit, David Jones i gadw Gorllewin Clwyd.
Mae'r canlyniadau ar draws y Deyrnas Unedig yn golygu mai senedd grog fydd y senedd nesaf, a'r Ceidwadwyr yw'r blaid fwyaf.
Ddydd Gwener dywedodd Theresa May y byddai'n ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol gyda chefnogaeth y DUP o Ogledd Iwerddon.
Eisoes mae Mrs May wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo.
Yn ôl Anna Soubry, aelod seneddol Broxtowe, fe dylai Mrs May ystyried ei sefyllfa wedi iddi arwain ymgyrch "drychinebus".
Mae ASau eraill, yn eu plith Iain Duncan Smith, wedi annog Mrs May i aros gan ddweud y byddai brwydr am yr arweinyddiaeth yn "drychineb".
Ddydd Gwener, cadarnhaodd Mrs May ei bod am gadw y gweinidogion amlycaf yn y cabinet - yn eu plith mae'r Canghellor, Philip Hammond, a'r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson.
Yng Nghymru fe gollodd y Ceidwadwyr dair sedd i Lafur er iddynt obeithio gipio seddi.
Wrth iddi ddewis ei chabinet, y disgwyl yw y bydd Mrs May o dan bwysau i ddewis aelodau a fydd yn uno'r blaid ac yn adfer ei hawdurdod hi fel Prif Weinidog wedi canlyniad siomedig.
Wrth gael ei holi gan y BBC ddydd Gwener dywedodd David Jones, ymgyrchydd Brexit a chyn ysgrifennydd Cymru mai Mrs May yw'r "arweinydd gorau sydd gan y Torïaid ar hyn o bryd.