Llafur: 'Barod i lywodraethu unrhyw funud'

  • Cyhoeddwyd
nia griffith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Griffith AS am weld y Prif Weinidog yn camu o'r neilltu

Mae un o ASau mwyaf blaenllaw y Blaid Lafur wedi galw ar Theresa May i gamu o'r neilltu ac i adael i Jeremy Corbyn "roi cynnig" ar ffurfio llywodraeth.

Dywedodd Nia Griffith, sy'n llefarydd yr wrthblaid ar amddiffyn, fod y Blaid Lafur yn barod i gymryd yr awenau "unrhyw funud".

Mae Mrs May mewn trafodaethau gyda'r Unoliaethwyr Democrataidd, ar ôl i'r Ceidwadwyr golli eu mwyafrif yn yr etholiad ddydd Iau.

Fe gyhoeddodd dau aelod blaenllaw o staff Mrs May eu bod yn ymddiswyddo ddydd Sadwrn. Mae Nick Timothy a Fiona Hill wedi derbyn cyfrifoldeb dros fethiant y Prif Weinidog wrth geisio argyhoeddi pobl y DU yn yr etholiad.

Dywedodd AS Aberconwy, Guto Bebb, sydd hefyd yn Weinidog yn Swyddfa Cymru, mai llywodraeth Geidwadol gyda chefnogaeth gan bleidiau eraill yw'r "yr unig ddewis ar y bwrdd".

Mae Llafur wedi awgrymu y gallai ffurfio gweinyddiaeth leiafrifol, ond gyda 262 o seddi, sydd yn sylweddol llai na'r 326 sydd ei angen ar gyfer mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin.

Diystyru bargeinio

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi diystyru taro bargen gyda phleidiau eraill.

Dywedodd Ms Griffith wrth BBC Cymru: "Yr hyn yr ydym wir eisiau, ydi gwneud yn siŵr y gallwn ni roi cynnig ar roi ein syniadau ar waith, ac mae hynny'n golygu bod angen i'r grŵp fod yn unedig iawn yn y senedd.

"Mae'n golygu ein bod angen bod yn barod, ar unrhyw funud, i gymryd drosodd a chamu i mewn i lywodraeth pryd bynnag y gallai'r cyfle godi.

"Rydym yn dal i ddweud yn eithaf clir y byddem yn barod i gymryd drosodd os na all Theresa May drefnu rhywbeth gyda hyn, ac rydym yn amheus iawn y gallai wneud hynny.

"Tyda ni ddim yn credu fod ganddi fandad, mae hi wedi gwneud ffŵl o honni hi ei hun, ac yn wir, a dweud y gwir, fe ddylai hi gamu o'r neilltu a gadael i ni roi cynnig arni."

Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd y Blaid Lafur, o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn i ennill 30 o seddi yn yr etholiad

Fe gafodd y Blaid Lafur yng Nghymru noson etholiadol lwyddiannus gan gipio tair sedd oddi wrth y Ceidwadwyr.

Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Gogledd Caerdydd oedd yr etholaethau hynny, gyda phob un o bedair sedd y brifddinas yn bellach yn goch.

Roedd yna ddarogan y byddai'r blaid yn colli seddi yn y gogledd ddwyrain, ond dyw hynny ddim wedi digwydd.

'Hyder'

Dywedodd Ms Griffith hefyd fod Jeremy Corbyn wedi rhoi "hyder" i bobl, wrth iddo werthu polisïau'r blaid ynglŷn â "materion megis perchenogaeth gyhoeddus y rheilffyrdd ac ati".

Dywedodd Ms Griffith fod pleidleiswyr wedi newid eu meddyliau i gefnogi Llafur yn ystod yr ymgyrch etholiad ei hun.

"Mae pobl yn cael ymdeimlad gwirioneddol o gymuned yng Nghymru," meddai.

"Maent yn hoffi syniadau Llafur, fel edrych ar ôl y gwasanaethau cyhoeddus ac rwy'n credu y daeth pobl at ei gilydd, a'u bod yn gweld yr hyn mae Theresa May yn ei gynnig yn wag iawn - ni allaf ei alw yn faniffesto."

"Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd y nifer o bobl a wnaeth eu penderfyniadau yn ystod yr ymgyrch, gwelsom bethau yn newid ar y funud olaf un."

Fis Mehefin diwethaf, ymunodd Ms Griffith â gwrthryfel Llafur yn erbyn Mr Corbyn yn dilyn pleidlais y refferendwm ar Brexit, ac fe ymddiswyddodd Ms Griffith fel Llefarydd yr wrthblaid ar Gymru mewn protest.

Dychwelodd i'r fainc flaen ym mis Hydref fel y Llefarydd Amddiffyn, ar ôl i Mr Corbyn drechu her i'w arweinyddiaeth gan AS Pontypridd, Owen Smith.

Disgrifiad,

Mae Mr Bebb yn meddwl mai'r unig opsiwn ydi ffurfio llywodraeth Geidwadol gyda chefnogaeth gan bleidiau eraill

Mae Guto Bebb AS, sy'n Weinidog yn Swyddfa Cymru, wedi gwrthod y syniad y gallai Llafur gymryd yr awenau.

"Mae'n glir iawn i mi mai'r unig opsiwn ar y bwrdd ydi llywodraeth Geidwadol gyda chefnogaeth gan bleidiau eraill yn San Steffan," meddai.

"Mae'r DUP wedi pleidleisio yn weddol reolaidd gyda'r Blaid Geidwadol yn y gorffennol, felly naturiol, rhywbeth i'r prif weinidog i weithio allan ydi unrhyw gytundeb.

"Ond nid yw'n syndod bod yna bosibilrwydd o lywodraeth leiafrifol Geidwadol gyda chefnogaeth y DUP.

"Dydw i ddim yn gweld bod hynny yn annisgwyl mewn unrhyw ffordd."