Beirniaid Corbyn yng Nghymru yn canmol ei berfformiad
- Cyhoeddwyd
Mae dau o feirniaid amlwg Jeremy Corbyn yng Nghymru wedi annog aelodau seneddol llafur i gefnogi eu harweinydd wedi ei lwyddiant yn yr etholiad cyffredinol.
Er i'r blaid lafur ennill 56 sedd yn llai na'r Ceidwadwyr mi wnaethont yn well na'r disgwyl a llwyddont i rwystro Theresa May rhag sicrhau mwyafrif.
Dywedodd AS Caerffili Wayne David: "Petai etholiad cyffredinol arall bydden i'n dweud 'awn amdani' gan gefnogi Jeremy Corbyn."
Roedd Mr David ymhlith y rhai a ymddiswyddodd o fainc flaen y blaid Lafur fis Mehefin y llynedd ac yn dweud nad oedd Mr Corbyn yn addas i fod yn arweinydd. Ond ym mis Hydref dychwelodd i fod yn weinidog amddiffyn yr wrthblaid.
Mewn cyfweliad ddydd Sul dywedodd Mr David: "Mae'n gwbl rhyfeddol sut y llwyddodd Mr Corbyn i ddenu pobl i gefnogi'r blaid ac o ganlyniad mae wedi ennyn parch ymhlith aelodau seneddol ac etholwyr.
"Ein swyddogaeth ni nawr," meddai Mr David, "yw dangos y gwendidau amlwg sydd yn y llywodraeth ac os oes etholiad arall mi fydden i'n dweud 'awn amdani'. Gadewch i ni gefnogi Jeremy Corbyn ac ennill yr etholiad.
"Mae'n gwbl rhyfeddol sut y llwyddodd i ennill parch pobl ifanc ond rwy'n teimlo oherwydd iddo wneud hynny ei fod yn haeddu parch anferth gan aelodau seneddol a phobl Prydain."
'Camau breision ymlaen'
Dywedodd AS Aberafan Stephen Kinnock y byddai'n fraint ganddo gymryd swydd mainc flaen petai'n cael ei chynnig.
Y llynedd ymddiswyddodd Mr Kinnock fel cynorthwy-ydd i weinidog busnes yr wrthblaid Angela Eagle gan weld gwendidau yn ymgyrch Mr Corbyn yn refferendwm y DU.
Ond mewn cyfweliad â'r BBC ddydd Sul dywedodd Mr Kinnock fod y blaid lafur wedi "gwneud camau breision i'r cyfeiriad iawn" ddydd Iau.
Ychwanegodd Mr Kinnock bod angen i'r "blaid lafur ehangu ei hapêl."
Ddydd Gwener dywedodd Owen Smith a heriodd Mr Corbyn am yr arweinyddiaeth fod ei deimladau wedi bod yn anghywir.
Tra'n cael ei holi ar raglen Andrew Marr ddydd Sul, dywedodd Mr Corbyn y byddai'n gwahodd aelodau seneddol i gefnogi ei bolisïau yn hytrach na pholisïau Mrs May.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Hywel Williams fod y blaid yn barod i wrando ar unrhyw blaid flaengar ond nad oedd diddordeb gan Blaid Cymru i ffurfio clymblaid gyda Llafur.
Ychwanegodd nad oedd yn credu bod diddordeb gan Llafur i wneud hynny chwaith.
Er fod Llafur wedi llwyddo i gynyddu eu seddi yn San Steffan mae'r blaid yn parhau yn ail blaid yn Nhy'r Cyffredin gyda 262 sedd - oddeutu 60 sedd yn fyr o fwyafrif.