Alun Cairns yn cadw ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Alun Cairns yn cyrraedd rhif 10 Downing St. brynhawn Sul

Dridiau wedi'r etholiad cyffredinol mae'r prif weinidog Theresa May wedi cadarnhau bod Alun Cairns yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Gydol brynhawn Sul mae Theresa May wedi bod yn rhoi trefn ar ei chabinet newydd.

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Alun Cairns: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ailbenodi i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac rwy'n barod am y dyletswyddau.

"Byddaf yn parhau i weithio yn agos ac yn adeiladol gyda busensau, awdurdodau lleol, cymunedau a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y canlyniadau gorau i bobol Cymru."

Yn syth wedi canlyniad yr etholiad cyffredinol ddydd Gwener roedd Mrs May wedi cadarnhau bod y Canghellor, yr Ysgrifennydd Cartref, yr Ysgrifennydd Tramor, yr Ysgrifennydd dros adael yr Undeb Ewropeaidd a'r Ysgrifennydd Amddiffyn yn aros yn eu swyddi.

Ddydd Sul cafodd Damian Green, a gafodd ei eni yn Y Barri, ei benodi yn Brif Ysgrifennydd Gwladol a Greg Clark yn Ysgrifennydd Busnes.

Wrth iddi ddewis ei chabinet, y gred yw bod Mrs May o dan bwysau i ddewis aelodau a fydd yn uno'r blaid ac yn adfer ei hawdurdod hi fel Prif Weinidog wedi canlyniad siomedig.

Llwyddodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a'r gweinidog, Guto Bebb i gadw eu seddi ym Mro Morgannwg ac Aberconwy.

Hefyd llwyddodd Gwenidog Brexit, David Jones i gadw Gorllewin Clwyd.

Mae'r canlyniadau ar draws y Deyrnas Unedig yn golygu mai senedd grog fydd y senedd nesaf, a'r Ceidwadwyr yw'r blaid fwyaf.

Ddydd Gwener dywedodd Theresa May y byddai'n ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol gyda chefnogaeth y DUP o Ogledd Iwerddon.

Eisoes mae Mrs May wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo.

Yn ôl Anna Soubry, aelod seneddol Broxtowe, fe ddylai Mrs May ystyried ei sefyllfa wedi iddi arwain ymgyrch "drychinebus".

Mae ASau eraill, yn eu plith Iain Duncan Smith, wedi annog Mrs May i aros gan ddweud y byddai brwydr am yr arweinyddiaeth yn "drychineb".

Ddydd Sul ar raglen Dewi Llwyd dywedodd Guto Bebb bod angen cyfnod o sefydlogwydd nawr a chyfle i Theresa May ddangos arweiniad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Jones yn dweud mai Theresa May yw'r "arweinydd cryfaf ar hyn o bryd"

Yng Nghymru fe gollodd y Ceidwadwyr dair sedd i Lafur er iddynt obeithio gipio seddi.

Wrth gael ei holi gan y BBC ddydd Gwener dywedodd David Jones, ymgyrchydd Brexit a chyn ysgrifennydd Cymru mai Mrs May yw'r "arweinydd gorau sydd gan y Torïaid ar hyn o bryd".