Y Blaid Werdd yn cwestiynu'r angen am Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwyrddion yn gwrthwynebu ehangu meysydd awyr, gan gynnwys un Caerdydd ym Mro Morgannwg

Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi cwestiynu'r angen am Faes Awyr Caerdydd.

Dywedodd Anthony Slaughter nad yw wedi mynd mor bell â galw am gau'r maes awyr, er gwaethaf pryderon y blaid ynghylch allyriadau carbon.

Ond ychwanegodd "ni allwn ni barhau gyda busnes fel arfer" yno.

Wrth lansio ymgyrch etholiadol y blaid yng Nghymru yn Y Barri ddydd Llun, fe ddywedodd Mr Slaughter y byddai'r blaid yn cyflwyno newidiadau graddol "nes bod dim angen Maes Awyr Caerdydd" yn y pen draw.

'Bradychu cenedlaethau'r dyfodol'

Yn ôl y Blaid Werdd mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr hediadau o Faes Awyr Caerdydd yn "gwrthddweud eu datganiad am argyfwng hinsawdd ac yn bradychu cenedlaethau'r dyfodol".

Mae'r Gwyrddion yn gwrthwynebu ehangu meysydd awyr, gan gynnwys un Caerdydd ym Mro Morgannwg - ble mae Mr Slaughter yn ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.

Bro Morgannwg yw'r unig etholaeth yng Nghymru na fydd Plaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgeisio ynddi.

Mae'r Ceidwadwyr a Llafur Cymru wedi cael cais i ymateb i sylwadau Mr Slaughter.

Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Anthony Slaughter am newidiadau graddol "nes bod dim angen Maes Awyr Caerdydd" yn y pen draw wrth lansio ymgyrch Gymreig y Blaid Werdd yn Y Barri

Dywedodd Mr Slaughter wrth raglen Breakfast BBC Radio Wales fore Llun: "Mae hyn hefyd yn fater o gydraddoldeb. Nifer fach iawn o bobl sy'n cymryd y mwyafrif helaeth o deithiau awyr.

"Mae'r diwydiant hedfan, yn annheg, yn cael cymorth ariannol eithriadol - dim treth, dim TAW ar ynni awyrennau."

Dywedodd hefyd bod "nifer cynyddol o achosion o dywydd eithafol" yn golygu bod "rhaid i'r etholiad yma fod yn etholiad yr hinsawdd", gan "edrych ar bob pwnc yn yr etholiad yma trwy lens yr argyfwng hinsawdd".

'Trethi blaengar yn wyneb argyfwng'

Mae'r blaid yn dweud eu bod am "adfer ac adfywio cymunedau" ac yn cyflwyno "polisïau beiddgar, radical" i bleidleiswyr yn yr hyn maen nhw'n ei alw'n "Weledigaeth Werdd i Gymru".

Dywedodd y blaid y byddan nhw'n helpu ardaloedd ledled Cymru sydd wedi'u taro gan "newid diwydiannol anghyfiawn a'r agenda llymder".

Mae Mr Slaughter yn cydnabod y byddai cynlluniau'r Blaid Werdd yn costio £100bn y flwyddyn dros 10 mlynedd, a byddai "trethiant blaengar... i wynebu graddfa'r argyfwng o'n blaenau" yn gwneud hynny'n bosib.

Byddai iechyd y cyhoedd, meddai, yn elwa o ganlyniad gwella'r ansawdd aer, a byddai'r pwysau ar y GIG yn lleihau yn y pen draw.

Fe fydd y blaid hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu tai fforddiadwy, cynaliadwy i bawb, cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy ac effeithlon.

Hefyd yn ymgeisio ym Mro Morgannwg fydd Alun Cairns ar ran y Ceidwadwyr a Belinda Loveluck-Edwards i'r Blaid Lafur.

Bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Iau, 14 Tachwedd.