Etholiad 2019: Sut mae pleidiau gwleidyddol yn dewis ymgeiswyr?

  • Cyhoeddwyd
gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Cyn bo hir bydd yn rhaid i 46 miliwn o bleidleiswyr cofrestredig y DU benderfynu pwy fydd eu haelod seneddol (AS) nesaf.

Ond pwy sy'n penderfynu pa ymgeiswyr y gallwch chi ddewis?

Beth yw ymgeisydd seneddol?

Mae pobl sydd eisiau bod yn AS yn cael eu galw'n ymgeiswyr seneddol neu'n ddarpar ymgeiswyr seneddol.

Gan amlaf, maen nhw'n cael eu dewis gan blaid wleidyddol - grwpiau o bobl sy'n credu'r un math o bethau sy'n dod at ei gilydd i geisio ennill grym.

Mae nifer fach o ymgeiswyr ddim yn cynrychioli unrhyw blaid ond yn sefyll ar eu liwt eu hunain fel aelodau annibynnol.

Mae'r ymgeiswyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am bleidleisiau yn un o 650 o'r ardaloedd pleidleisio, neu etholaethau'r DU.

Pwy bynnag sy'n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth benodol fydd yn cael ei ethol yn AS.

All unrhyw un ddod yn AS?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid pawb sy'n cael sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiad - swyddogion heddlu, er enghraifft

Gall bron unrhyw un gynnig ei hun fel AS, ac fe all arwain at nifer fawr o ymgeiswyr. Mewn un etholaeth yn 2008, safodd 26 o ymgeiswyr yn yr etholiad - llawer ohonyn nhw fel aelodau annibynnol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf, yn ddinesydd Prydeinig, neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon sy'n byw yn y DU.

Nid oes hawl gan rai grwpiau o bobl sefyll. Er enghraifft, mae carcharorion, aelodau o'r heddlu a'r lluoedd arfog, a barnwyr wedi'u heithrio.

I gael eich enw ar y papur pleidleisio - y mae pleidleiswyr yn ei ddefnyddio i wneud eu dewis - rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflenni enwebu.

Rhaid iddyn nhw hefyd dalu £500 o flaendal, sy'n cael ei dalu'n ôl os ydyn nhw'n ennill o leiaf 5% o'r pleidleisiau.

Bywyd AS mewn rhifau

  • 18 - yr oedran ifancaf i sefyll fel ymgeisydd

  • £500 - y blaendal sydd ei angen i sefyll

  • 650 - nifer yr ASau yn Nhy'r Cyffredin

  • £79,468 - cyflog blynyddol ASau ar gyfartaledd

  • 8.7 - hyd gwasanaeth ASau ar gyfartaledd (mewn blynyddoedd)

Ffynhonnell: Gwefan Senedd y DU

A oes dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ymgeiswyr?

Oes, y dyddiad cau yw 14 Tachwedd 2019, am 16:00.

Yna bydd enwau'r ymgeiswyr enwebedig yn ymddangos ar y papur pleidleisio ac ni allan nhw benderfynu tynnu'n ôl.

Serch hynny, os bydd ymgeisydd un o'r pleidiau cofrestredig yn marw, bydd yr etholiad yn cael ei ohirio yn yr etholaeth honno. Y tro diwethaf ddigwyddodd hynny oedd etholiad cyffredinol 2010.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Sut mae pleidiau yn dewis eu hymgeiswyr?

Gan amlaf, mae gan y pleidiau ddigon o amser i ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad. Mae'r holl bleidiau sy'n cael eu cynrychioli yn Senedd y DU ar hyn o bryd yn dilyn gweithdrefnau tebyg.

Gyntaf oll, i gael eich enwebu, mae'n rhaid i chi fod yn aelod o'r blaid am gyfnod penodol o amser, sy'n amrywio o dri mis i flwyddyn.

Yna mae ffurflenni cais ac asesiadau, gyda chwestiynau am fywyd a phrofiadau gwleidyddol a gyrfa.

Yna bydd y pleidiau'n llunio rhestrau o ymgeiswyr sydd wedi cael eu cymeradwyo'n ganolog, a fydd yn cael eu cyflwyno i aelodau'r blaid leol i gael penderfyniad terfynol.

Beth yw dewis brys?

Mae dros 70 o ASau yn rhoi'r gorau iddi yn yr etholiad hwn, felly ni fydd yn bosibl i'r pleidiau ddefnyddio eu gweithdrefnau arferol i ddewis ymgeiswyr.

Y rheswm am hynny yw bod cyn lleied o amser i wneud y penderfyniad ar ymgeiswyr seneddol newydd cyn i'r etholiad gael ei gynnal.

Mae cyrff llywodraethol y pleidiau, sy'n cynnwys uwch ffigyrau, yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau ynglŷn â phwy ddylai sefyll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i San Steffan yn dilyn yr etholiad

A yw ymgeiswyr seneddol y DU yn cynrychioli poblogaeth y DU?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pob plaid wleidyddol fawr wedi newid y ffordd maen nhw'n dewis eu hymgeiswyr, er mwyn gwella amrywiaeth ASau.

Mae rhai wedi cyflwyno cwotâu rhywedd, rhestr fer o fenywod yn unig neu restrau o ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifol.

Er mai Senedd 2017 oedd yr un fwyaf amrywiol eto, nid oedd yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU o hyd.

Er enghraifft, dim ond 32% o ASau oedd yn fenywod a dim ond 8% o leiafrifoedd ethnig - o'i gymharu â 19.5% o boblogaeth Cymru a Lloegr yn ei chyfanrwydd.