Methodoleg canllaw polisïau etholiad cyffredinol
- Cyhoeddwyd
Mae'r canllaw i bolisïau'r pleidiau ar gyfer etholiad cyffredinol 2019 wedi ei chreu gan dîm newyddiaduraeth weledol y BBC, drwy gydweithio gydag uned ymchwil gwleidyddol y BBC yn Llundain ac arbenigwyr yng Nghaerdydd, Belffast a Glasgow.
Bydd y canllaw yn cael ei diweddaru wrth i'r pleidiau gyhoeddi eu maniffestos.
Y bwriad ydy rhoi trosolwg o safbwyntiau'r pleidiau ar y materion sydd fwyaf pwysig i etholwyr - gan eu helpu i wneud penderfyniad gwybodus wrth bleidleisio.
Sut cafodd yr ardaloedd polisi eu dewis?
Mae'r ardaloedd polisi wedi eu seilio ym mynegai materion Ipsos Mori, sy'n mesur y materion mae'r cyhoedd yn credu sy'n fwyaf pwysig i'r wlad.
Mae rhai materion wedi eu grwpio dan deitlau byr, ee mae'r Gwasanaeth Iechyd, ysbytai, gofal iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu cynnwys dan deitl "GIG a Gofal".
Mae anghydraddoldeb, tlodi, diweithdra, pensiynau a budd-daliadau wedi eu cynnwys yng nghategori "Gwaith a Budd-daliadau".
Cafodd y materion mwyaf poblogaidd eu dewis ar sail eu sgoriau rhwng Ionawr a Medi 2019.
Cafodd "Democratiaeth" ei adio ar sail olygyddol i gyflawni gofynion gwasanaeth cyhoeddus y BBC.
Sut mae'r pleidiau wedi eu dewis a'u rhestru?
Mae unrhyw blaid sydd ag o leiaf un AS pan gafodd Senedd 2019 ei diddymu wedi eu cynnwys.
Mae pleidiau sydd heb seddi wedi eu cynnwys pan mae ganddynt aelodau mewn cynulliad cenedlaethol neu senedd Ewrop.
Dan adran "Pob plaid", mae pleidiau wedi eu rhestru yn ôl faint o seddi sydd ganddynt yn San Steffan - ac yna yn ôl trefn yr wyddor.
Yn y rhestr dewis mae pleidiau wedi eu rhestru yn ôl yr wyddor dan eu gwledydd, ee mae'r SNP yn ymddangos dan adran Yr Alban.
Sut mae'r polisïau wedi eu dewis a'u crynhoi?
Mae hyn yn broses olygyddol dan oruchwyliaeth newyddiadurwyr y BBC. Mae pob plaid sydd wedi eu cynnwys wedi bod mewn cysylltiad gyda'r BBC er mwyn darganfod eu polisïau allweddol, cyn lansio eu maniffesto.
Beth am faterion sydd wedi eu datganoli o senedd y DU i'r seneddau cenedlaethol?
Oherwydd datganoli, ni chaiff senedd y DU benderfynu, neu mae ganddi lai o bwerau, dros rai o'r materion sydd yn y canllaw.
Er enghraifft, mae "Iechyd" wedi ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Ond mae rhai pleidiau'n dal i ymgyrchu'n lleol ar faterion sydd wedi eu datganoli cyn etholiad cyffredinol.
Am y rheswm yma, mae'r canllaw yn labelu polisïau ar faterion datganoledig fel "pwyntiau ymgyrchu", er mwyn nodi y gallan nhw beidio dod yn gyfraith yn y wlad honno petai'r blaid yn ennill mwyafrif yn San Steffan.