Gwyrddion yn addo gostwng lefelau carbon i sero erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
Arweinwyr y Gwyrddion
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Bartley a Sian Berry ydy cyd-arweinwyr y Gwyrddion yn ganolog

Mae'r Blaid Werdd wedi cyhoeddi eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol gan addo gostwng lefelau allyriadau carbon Prydain i sero erbyn 2030.

Maen nhw hefyd am weld mwy o bwerau'n cael eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywed y blaid y byddan nhw'n buddsoddi £100m y flwyddyn tan 2030 fel rhan o "gytundeb gwyrdd newydd" i daclo newid hinsawdd - gyda'r arian i ddod yn bennaf drwy fencythiadau.

Mae'r blaid hefyd eisiau cynyddu cyllideb y gwasanaeth iechyd, cynnal refferendwm ar Brexit a chynnig pleidlais i bobl 16 oed.

Mae'r Gwyrddion, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - pleidiau sydd o fewn aros yn yr Undeb Ewropeaidd - wedi cytuno ar gytundeb etholiadol mewn 11 o'r 40 sedd yng Nghymru.

Mwy o straeon am Etholiad 2019

Wrth lansio'r maniffesto yn Llundain ddydd Mawrth, dywedodd y cyd-arweinydd Jonathan Bartley mai dyma oedd y "cytundeb gwyrdd newydd mwyaf uchelgeisiol unrhyw le yn y byd".

Dywedodd y byddai'r ddogfen yn "ein rhoi ar y ffordd i ddat-garboneiddio pob un sector o'r economi erbyn 2030, wrth roi cydraddoldeb cymdeithasol ar draws Prydain".

"Mae ein planed yn codi'r larwm. Dyw taro 'snooze' am 15 mlynedd arall, yn syml, ddim yn opsiwn," meddai.

Beth sydd ym maniffesto'r Gwyrddion?

  • Cynyddu buddsoddiad ar gyfer y gwasanaeth iechyd o leiaf £6bn y flwyddyn tan 2030;

  • Cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol o o leiaf £89 yr wythnos i bob oedolyn erbyn 2025;

  • Adeiladu 100,000 o dai newydd 'carbon sero' i'w rhentu'n gymdeithasol pob blwyddyn;

  • Cynnal refferendwm arall, gan ymgyrchu i aros yn yr UE;

  • Cyflwyno system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol ac ymestyn pleidleisiau i bobl 16 a 17 oed;

  • Gwahardd adeiladu gorsafoedd pŵer niwclear a ffracio ar gyfer nwy ac olew.