Democratiaid Rhyddfrydol 'ddim digon clir' ar refferendwm
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyfaddef y gallai ei phlaid fod wedi bod mwy "clir" ynglŷn â'u safbwynt ar refferendwm arall ar Brexit.
Ym mis Medi fe gyhoeddodd y blaid y bydden nhw'n diddymu Erthygl 50 a chanslo Brexit yn gyfan gwbl petawn nhw'n ennill mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Cafodd y polisi hwnnw ei feirniadu gan rai am fod yn annemocrataidd, ac mae hyd yn oed cyn-arweinydd y blaid Vince Cable bellach wedi dweud nad yw'n cytuno â'r safbwynt.
Ond mynnodd Ms Dodds fod y Democratiaid Rhyddfrydol wastad wedi bod yn agored i opsiynau eraill hefyd, gan gynnwys cefnogi galwadau am refferendwm arall os oedd angen.
'Diffyg sylw'
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Ms Dodds ei bod hi'n "glir" y dylai pobl oedd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd "bleidleisio dros y Rhyddfrydwyr".
"'Dan ni'n setio allan beth 'dan ni isio - gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n pleidleisio drostan ni yn gwybod os 'dyn ni'n cael mwyafrif, dyna beth ddylen ni wneud [canslo Brexit], a dydy hynny ddim yn annheg," meddai.
Ychwanegodd: "Falle 'dyn ni heb fod mor glir wrth ddweud 'da ni dal yn cefnogi ail refferendwm... 'da ni'n cario 'mlaen gweithio ar hynny os 'dyn ni ddim yn cael mwyafrif."
Gwrthododd ddweud a fyddai'n cydweithio â Llafur neu'r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad, fodd bynnag, gan ddweud bod arweinwyr y ddwy blaid "ddim yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd".
Gyda'r polau piniwn yn awgrymu nad yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, wedi llwyddo i gynyddu cefnogaeth ei phlaid rhyw lawer, dywedodd Ms Dodds eu bod yn dioddef oherwydd diffyg sylw yn y cyfryngau.
"Mae gyda ni negeseuon sy'n dda, mae gyda ni faniffesto sydd wedi ei gostio," meddai.
"Beth sydd wedi digwydd yn fy marn i ydy bod pawb yn canolbwyntio ar y Ceidwadwyr a Llafur, a'r partïon eraill ddim wedi cael cyfle i fod yn y wasg."
Ychwanegodd y byddai'n parhau i gymryd "amser" i'r blaid adfer eu cefnogaeth yn dilyn etholiadau cyffredinol siomedig dros y blynyddoedd diwethaf.
"'Da ni'm yn disgwyl curo trwy yn yr etholiad yma [ond] 'da ni isio 'neud yn siŵr bod pobl yn deall yn hollol be 'di'n neges ni," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019