Galw am broses bleidleisio well i bobl ddall
- Cyhoeddwyd
Mae'n angenrheidiol bod pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gallu pleidleisio'n gyfrinachol, yn ôl ymgyrchydd o Gaerdydd.
Dywedodd Dan Thomas bod trefniadau pleidleisio sydd yn bodoli eisoes ddim yn cymryd i ystyriaeth y nifer o anghenion gwahanol sydd gan bobl ddall a rhannol ddall ar draws Cymru.
"Mae peidio cael y gallu i bleidleisio'n gyfrinachol yn rhwystredig iawn. Fi'n dibynnu ar fy mam neu garedigrwydd person dieithr i weithredu fy hawl democrataidd i bleidleisio", meddai.
Yn ôl RNIB Cymru, mae 111,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda cholled golwg, a 2 filiwn ar draws y DU.
Dywedodd Mr Thomas, a gafodd ei eni'n ddall ac sy'n gweithio gyda RNIB Cymru fel gwirfoddolwr ac ymgyrchydd: "Dylai'r broses pleidleisio fod yn hygyrch i bawb, o allu darllen maniffestos i bleidleisio ar y dydd.
"Dwi'n syml yn gofyn am yr un hawliau â phawb arall."
Wrth drafod y broses pleidleisio bresennol, ychwanegodd Mr Thomas: "Mae'n rhaid i fi ddweud wrth y person sy gyda fi pwy fi'n pleidleisio am ac ymddiried bod nhw'n rhoi'r groes yn y bocs cywir."
Mae'r RNIB yn honni bod y ddwy ffordd bresennol o bleidleisio sydd ar gael i bobl ddall a rhannol ddall yn meddwl bod dal angen person arall i'w helpu nhw gyda ble maen nhw'n rhoi'r groes ar y papur.
Ar hyn o bryd, un o'r ffyrdd o bleidleisio yw trwy ddefnyddio papur pleidleisio print-mawr a theclyn pleidleisio cyffyrddol, a'r llall yw defnyddio patrymlun sy'n ffitio dros bapur pleidleisio.
'System chwerthinllyd'
Dywedodd Ansley Workman, prif weithredwr RNIB Cymru: "Mis Mai diwethaf, penderfynodd yr Uchel Lys Cyfiawnder bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer pleidleiswyr gyda cholled golwg yn 'neud i'r system edrych yn chwerthinllyd' oherwydd bod pobl ddall a'n rhannol ddall yn methu pleidleisio yn annibynnol na'n gyfrinachol."
"Dyw e'n syml ddim yn dderbyniol bod pobl yn gallu gadael gorsaf polio yn ansicr os ydyn nhw wedi pleidleisio'n gywir am yr ymgeisydd dewison nhw neu fod nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw ofyn rhywun arall am gymorth."
Mae'r galwadau'n dod cyn i'r RNIB lansio ymgyrch i adolygu arferion etholiadol yng Nghymru ac ar draws y DU ar 12 Rhagfyr.
Er mai'r Senedd sy'n gyfrifol am brosesau etholiadol ar gyfer etholiadau yng Nghymru yn unig, y llywodraeth Brydeinig sy'n parhau i benderfynu ar sut mae prosesau etholiadol yn cael eu gweithredu mewn etholiadau sy'n cymryd lle ar draws y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019