Rhybuddio Llafur yn erbyn troi at wleidyddiaeth 'di-liw'
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai Llafur droi at "wleidyddiaeth di-liw y canol" wedi'r perfformiad siomedig yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru yr Arglwydd Hain.
Cafodd y blaid Lafur ei pherfformiad gwaethaf mewn etholiad cyffredinol ers 1935 a cholli chwe sedd yng Nghymru, gan adael nhw gyda 22 o'r 40 AS yma.
Dywedodd yr Arglwydd Hain y dylai Llafur gynnig "dewis arall clir i'r prosiect Dorïaidd" a fyddai'n "drychinebus i Gymru".
Ond dywedodd bod rhaid i'r "anoddefgarwch" i bleidleiswyr oedd "ddim o'r un llwyth" a welwyd gan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn hefyd ddod i ben.
Mae Mr Corbyn wedi dweud ei fod wedi gwneud "popeth o fewn ei allu" i roi Llafur mewn grym, ac na fydd yn cerdded i ffwrdd tan y bydd arweinydd arall wedi'i ethol.
Boris Johnson a'r Ceidwadwyr enillodd yr etholiad gyda mwyafrif o 80.
'Cyfnod cythryblus o'n blaenau'
Wrth siarad ar BBC Radio Wales ddydd Sadwrn dywedodd yr Arglwydd Hain, fu'n aelod cabinet o dan Tony Blair a Gordon Brown: "Mae angen i brosiect Corbyn edrych o ddifri' arnyn nhw'u hunain, ac mae'n rhaid gwneud hynny yn onest.
"Ond dydw i ddim yn credu mai'r ateb yw troi 'nôl at y canol a pheidio cynnig dewis gwahanol clir i'r prosiect Torïaidd, sy'n eitha asgell dde ac y fydd yn mynd â ni i lawr llwybr Brexit caled, sydd yn fy marn i yn mynd i fod yn drychinebus i Gymru yn enwedig.
"Mae cyfnod cythryblus o'n blaenau yng ngwleidyddiaeth Prydain."
Mynnodd cyn-AS Castell-nedd bod yn rhaid i Lafur fod "yn onest" wrth ystyried beth arweiniodd at ganlyniadau nos Iau.
"Rhaid derbyn mai nid dychwelyd at wleidyddiaeth di-liw y canol yw'r hyn sydd angen, ond hefyd bod y polisi yma o anoddefgarwch o'r top tuag at etholwyr eraill sydd ddim efallai o'r un lwyth... ddim yn yr un clique... rhaid i hynny stopio, a rhaid i ni gael trafodaeth onest go iawn," ychwanegodd.
"Rhaid dewis arweinydd wedyn, ac rwy'n credu mai menyw fydd hi mwy na thebyg, oherwydd mae nifer o fenywod o safon uchel iawn yn barod i gymryd yr awenau."
Dywedodd hefyd fod yna broblemau dwfn nad oedd Llafur wedi eu hwynebu.
"Er enghraifft, dwi wedi sylwi fod sail y blaid Lafur wedi diflannu o dan ein traed mewn hen gadarnleoedd fel Castell-nedd ac ar draws cymoedd de ddwyrain Cymru.
"Mae'r cysylltiadau organig traddodiadol rhwng yr undebau llafur a diwydiant, ac yna clybiau cymdeithasol, clybiau rygbi ac yn y blaen... mae'r cysylltiad yna rhwng y blaid a'r gwreiddiau cymunedol yna wedi toddi yn y bôn.
'Polisïau cywir'
Ond dywedodd AC Pontypridd Mick Antoniw, cefnogwr i Jeremy Corbyn sy'n aelod o Bwyllgor Gweithredu Cenedlaethol Llafur, mai etholiad am Brexit oedd hwn.
"Yn amlwg rhaid i ni fod yn blaid flaengar," meddai. "Rhaid taclo anghyfartaledd a thaclo newid hinsawdd... mae angen atebion radical i'r rheiny, ac mae'r atebion gennym.
"Yr hyn sydd angen nawr yw arweinyddiaeth sy'n medru cael y maen i'r wal ar hynny.
"Yn amlwg ni wnaeth hynny weithio gyda Jeremy am amryw resymau.
"Ond mae'r polisïau ar y cyfan, yn fy marn i, yn mynd i'r cyfeiriad cywir."
Dim ond un sedd sydd gan Lafur bellach yng ngogledd a chanolbarth Cymru - Alun a Glannau Dyfrdwy, ble cafodd mwyafrif Mark Tami ei leihau i ddim ond 213 o bleidleisiau.
Dywedodd Mr Tami fod angen i'r blaid nawr ailgysylltu gyda'u cefnogwyr traddodiadol oedd wedi "benthyg eu pleidlais i'r Ceidwadwyr".
"Mae'n rhaid i ni fod yn glir gyda nhw beth yw ein neges ni a beth allwn ni ei gynnig iddyn nhw," meddai.
Ychwanegodd nad oedd ymgyrch y blaid yng Nghymru wedi bod yn ddigon Cymreig o'i gymharu ag etholiadau yn y gorffennol.
"Dwi'n meddwl os 'dych chi'n edrych yn ôl i 2017 roedd gwahaniaeth mawr rhwng sut wnaethon ni wneud yng Nghymru o'i gymharu gyda sut wnaeth Llafur yn rhannau eraill y wlad," meddai.
"Mae'n debyg ein bod ni wedi gwneud camgymeriad wrth beidio gwthio'n brand Cymreig ni cymaint ag y gwnaethon ni yn 2017."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019