Refferendwm UE: Rhybudd dros golli 'statws arbennig'

  • Cyhoeddwyd
Halen Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Halen Môn statws arbennig o fewn yr Undeb Ewropeaidd

Mae rhybudd y gall cynnyrch fel oen Cymreig a Halen Môn golli eu statws arbennig os yw'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

O ganlyniad i reolau'r undeb, dim ond mewn lleoliadau penodol y gall rhai bwydydd neu ddiod, fel siampên a Phastai Cernyweg, gael eu creu.

Heb y statws arbennig, mae Plaid Cymru yn honni y gall cynnyrch o safon is fod ar gael mewn llefydd eraill a'u marchnata yn yr un ffordd.

Ond yn ôl y grŵp sy'n ymgyrchu dros adael yr undeb, Vote Leave mae'r ddadl honno'n "nonsens llwyr".

Bydd pobl yn bwrw eu pleidlais yn y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Thomas o blaid aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas: "Un o'r manteision o'n haelodaeth ni o'r Undeb Ewropeaidd yw'r statws arbennig sy'n cael ei roi i fwydydd Cymreig arbenigol.

"Mae'r statws arbennig yma'n golygu mai dim ond yng Nghymru y gall cig oen o Gymru neu Halen Môn gael eu gwneud, a dyw ein cynhyrchwyr ddim yn gorfod cystadlu â dynwarediadau rhad.

"Dyw hi'n gwneud dim synnwyr i ffermwyr Cymru neu'r cyhoedd yng Nghymru i beidio cael y manteision yma a dyna pam fod Plaid Cymru yn credu y dylen ni bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd."

'Cytundeb newydd'

Ond dywedodd Vincent Bailey, llefarydd ar ran Vote Leave Cymru: "Mae'r honiadau yma yn nonsens llwyr oherwydd mae statws arbennig i fwyd yn gweithio'r ddwy ffordd.

"Wedi'r cyfan, ydi Plaid Cymru wir yn awgrymu bod y statws arbennig sy'n cael ei roi i gynhyrchwyr siampên o Ffrainc, neu gynhyrchwyr Eidalaidd o Parma Ham, yn cael eu haberthu gan yr UE os byddai pleidlais dros adael?

"Byddai'r Deyrnas Unedig yn sicrhau bod ein cynnyrch yn cael eu hamddiffyn yn yr UE drwy ddod i gytundeb newydd, mae mor syml â hynny.

"Ac fe fyddai'r UE eisiau dod i gytundeb newydd er mwyn amddiffyn eu cynnyrch newydd yn y DU o gystadleuaeth annheg o gynnyrch israddol."