Tywydd: Record Newydd am fis Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae'r record tymheredd ar gyfer Hydref yng Nghymru wedi cael ei thorri.
Cafodd y record ei thorri pan gyrhaeddodd y tymheredd 28.2C neu 82.8F ym Mhenarlâg Sir y Fflint ddydd Sadwrn.
Y record oedd 26.4C neu 79.5F yn Rhuthun yn Sir Ddinbych a 1 Hydref 1985.
Y disgwyl yw i'r tymheredd gostwng erbyn dydd Mawrth.
Dywedodd cyflwynydd y tywydd BBC Cymru, Behnaz Akhgar: "Rydyn ni wedi bod yn aros am y newyddion hyn drwy'r wythnos.
"Mae'r record am fis Medi llawer yn uwch na'r record am fis Hydref felly roedden ni'n obeithiol iawn y byddai'r record yn cael ei thorri heddiw."
"Y tymheredd cyfartalog am fis Hydref yw 16C neu 17C felly mae'r record tua 10C yn fwy sy'n newyddion da i bawb."
Yn ogystal mae'r record tymheredd ar gyfer Hydref yn y DU wedi cael ei thorri.
Cafodd y record ei thorri pan gyrhaeddodd y tymheredd 29.5C neu 81.5F yn Gravesend yn Swydd Caint am 1.27pm ddydd Sadwrn.
Y record oedd 29.4C neu 85.5F ym mhentref March yn Swydd Caergrawnt ar 1 Hydref 1985.