Gillan: Llywodraeth Cymru'n 'wangalon'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud ei bod eisiau gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol am ei gwariant.
Mewn araith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion fe ddywedodd ei bod yn bryd rhoi stop ar "rym heb gyfrifoldeb".
Beirniadodd Llywodraeth Carwyn Jones am lywodraethu mewn dull "gwangalon" ac i ddweud bod hynny wedi arwain at restrau aros hirach am driniaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru'r Wrthblaid, Peter Hain fod ei sylwadau yn "feirniadaeth wag".
Triniaeth feddygol
Mae disgwyl i fanylion comisiwn i adolygu'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu cael eu cyhoeddi yn fuan.
Dywedodd Mrs Gillan: "Mae ein gwrthwynebwyr yn dweud nad yw'r Blaid Geidwadol yn poeni am Gymru.
"Maen nhw'n dweud bod Cymru yn cael llai o arian, yn wynebu mwy o doriadau ac nad ydyn ni'n deall datganoli.
"Maen nhw'n hollol anghywir."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru nad oedd hi'n ymddiheuro am beth oedd ei phlaid yn "ceisio cyflawni dros Gymru", ond bod y Blaid Lafur yn "glynu wrth bŵer" yn y Cynulliad.
"Ydych chi'n gwybod fod Ed Miliband wedi canmol y ffordd mae Llafur yn rheol Llywodraeth Cymru?" meddai Mrs Gillan.
'ddifflach'
"Ond o dan reolaeth y Blaid Lafur mae'n rhaid ichi aros yn hirach am driniaeth feddygol ac mae llai o arian yn cael ei wario ar ddisgyblion yng Nghymru na Lloegr.
"Hefyd mae economi Cymru yn wannach na bob man arall yn y Deyrnas Unedig."
"Mae Rhaglen Ddeddfwriaethol y Blaid Lafur yn wangalon a ddifflach ac mae eu cynlluniau ar gyfer llywodraethu yn amwys."
Soniodd Mrs Gillan am y comisiwn i adolygu'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu bydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Dywedodd y byddai'r adolygiad yn rhoi terfyn i ddiwylliant "rym heb gyfrifoldeb" yng Nghaerdydd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru'r Wrthblaid, Peter Hain: "Y broblem fwyaf mae ein gwlad yn wynebu yw diffyg twf economaidd sy'n golygu doed dim cyfleoedd i bobl gael swyddi.
"Bydd y Torïaid yn peri i genhedlaeth goll arall gael ei chreu os na fydd y Canghellor yn newid ei strategaeth."
Mae arweinydd y Torïaid yn y Cynulliad hefyd wedi beirniadu record llywodraeth Cymru ar yr economi a'r gwasanaeth iechyd.
Fe ddywedodd Andrew R T Davies wrth gynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion fod Llafur wedi gwario cymaint nad oedd ganddyn nhw arian ar gyfer cyffuriau allai arbed bywydau.
Yn y cyfamser mae hyd at ddeng mil ar hugain o bobol wedi bod yn gorymdeithio drwy Fanceinion i alw am ddiwedd i'r toriadau, ac i newidiadau i bensiynau'r sector gyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2011