Afghanistan: 'Y perygl o fod yn y llinell flaen'

  • Cyhoeddwyd
James RyanFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Bydd James yn dychwelyd i Afghanistan ym mis Mawrth 2012

Ar ôl gweld eu ffrindiau'n marw ac yn cael eu hanafu mae teimladau tri milwr o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru yn gymysg cyn dychwelyd i faes y gad.

"Dwi eisio mynd yna a dwi eisio gwneud gwahaniaeth," meddai'r Ffiwsilwr James Ryan, 24 oed o'r Fali ar Ynys Môn sy'n dychwelyd i Afghanistan ym mis Mawrth 2012.

"Mae'r Fyddin yn gwneud gwahaniaeth bob diwrnod a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gwneud mwy ac yn helpu'r bobl yno."

Serch hynny, mae'n gwybod pa mor beryglus yw'r linell flaen ar ôl ei daith gyntaf yn 2009.

Ers iddo ddechrau 10 mlynedd yn ôl mae 400 o filwyr o Brydain wedi marw yn Rhyfel Afghanistan.

"Mi oeddwn i'n rhan o ymgyrch fawr ond mi ges i fy mhrifo ar ôl mis o fod allan yno," meddai James. "Mi ges i shrapnel yn fy nghoes ac roedd y llawdriniaeth yn galed.

"Mae o wedi fy nychryn ond hefo help fy ffrindiau a'r Fyddin dwi'n ddigon hapus i fynd yn ôl a gwneud y chwe mis i gyd y tro yma."

Dywedodd Mathew Owen, Ffiwsilwr 22 oed o Walchmai, Ynys Môn: "Roedd y bygythiad o ffrwydradau a ballu yn uffernol.

"Mewn un ymgyrch mi oedden nhw'n saethu aton ni bob diwrnod.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron 400 o filwyr o Brydain wedi marw yn Rhyfel Afghanistan ers 10 mlynedd

"Dwi'n ofnus, a bod yn onest."

Ond dywedodd yr hyn yr oedd y Fyddin yn ei wneud yn y wlad honno'n ddefnyddiol.

"Dan ni yna i helpu'r bobl," meddai.

"Yn y diwedd, 'dan ni'n mynd ar batrôl a'r bobl yn cynnig bwyd a ballu. Roedd yn reit neis."

Dywedodd y Swyddog Gwarant Martin Evans, 41 oed o Benygroes, Gwynedd, nad oedd yn ffyddiog am lwyddiant yr ymgyrch yn Afghanistan.

"Mae 'na ormod o grwpiau bach o'r Taliban o gwmpas y llefydd yna, lot o ffanatics, a wnawn ni byth eu curo nhw ...,' meddai.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y rhyfel ar Hydref 7, 2001

"Ond 'dan ni'n medru gwneud gwahaniaeth, eu pwsho nhw allan o'r trefi a dod â'r llywodraeth leol i mewn i ddechra rhedeg petha ..."

Ychwanegodd ei fod yn gwybod ei bod hi'n anodd i'w deulu, yn enwedig ei blant oedd yn gwylio'r newyddion ac yn clywed hanes tadau eu ffrindiau yn Afghanistan.

"Mae fy ngwraig Anwen wedi cychwyn poeni yn barod," meddai. "Ond mae hi wedi arfer imi fynd i ffwrdd ac yn gwybod mod i'n dda yn fy ngwaith ac y bydda i'n dod yn ôl.

"Dwi yn poeni ychydig bach am fynd allan eto. Dwi'n gwybod be 'dan ni'n mynd i wynebu. 'Dan ni am fynd i'r un ardal ag o'r blaen ac am gael trafferth eto.

"Mae lot mwy o'r Taliban wedi dod drosodd i gwffio dros yr haf a bydd yn reit beryglus.

"Ond dwi'n barod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol