Cyn Aelod Seneddol wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Caerwyn RoderickFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Caerwyn Roderick yn 84 oed

Daeth cadarnhad fod cyn Aelod Seneddol Llafur Brycheiniog a Maesyfed, Caerwyn Roderick, wedi marw.

Roedd yn 84 oed.

Cafodd ei ethol yn 1970 a daliodd ei afael ar ei sedd tan Etholiad Cyffredinol 1979 pan gollodd i'r Ceidwadwr Tom Hooson.

Roedd hefyd yn cyn athro ac yn drefnydd undeb athrawon yr NUT yng Nghymru.