Gemau: Dechrau cynhyrchu medalau
- Cyhoeddwyd
Mae'r freuddwyd o ennill medal yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain yn 2012 gam yn nes wrth i'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant ddechrau cynhyrchu'r medalau.
Daeth tîm o arbenigwyr - yn dechnegwyr, cynllunwyr a chrefftwyr - at ei gilydd yn y bathdy i sicrhau bod y broses gynhyrchu yn cwrdd â'r safonau manwl dros ben.
Bydd y bathdy'n cynhyrchu tua 4,700 o fedalau a fydd yn cael eu rhoi yn yr 805 o seremonïau i'r buddugwyr mewn amryw ganolfannau ar draws y DU yn ystod y Gemau.
Bydd y broses o gynhyrchu bob medal yn cymryd oddeutu 10 awr, ac yn defnyddio 900 tunnell o bwysau ar wasg arbennig.
Cafodd y medalau Olympaidd eu cynllunio gan yr artist David Watkins, a'r rhai Paralympaidd gan yr artist a darlithydd gemwaith Lin Cheung.
'Balchder ac anrhydedd'
Dywedodd Prif Weithredwr pwyllgor trefnu Gemau Llundain, Paul Deighton, bod hi'n wych "gweld busnesau ar draws y DU yn elwa o'r Gemau".
"Rwyf wrth fy modd bod y medalau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu gwneud yn Ne Cymru."
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Bathdy Brenhinol, Adam Lawrence, bod 'na falchder yn y gweithle.
"Rydym yn teimlo balchder ac anrhydedd i fedru gwneud y medalau Olympaidd a Pharalympaidd.
"Mae dros 800 o bobl leol yn cael eu cyflogi yn y Bathdy Brenhinol, ac fe fydd pob un yn medru dweud wrth eu plant a'u hwyrion eu bod wedi cyfrannu at greu rhan o hanes y Gemau Olympaidd."
Cafodd y mwyn ar gyfer y medalau ei gyfrannu gan noddwyr Gemau 2012, Rio Tinto, a'i fwyngloddio yn Salt Lake City yn Utah, Yr Unol Daleithiau, a Oyu Tolgoi yn Mongolia.