Gwasanaeth ambiwlans yn llwyddo i gyrraedd y nod

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans (generic)Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y gwasanaeth eu bod yn ymwybodol o'r gwahaniaethau ar draws Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi llwyddo i gyrraedd eu targedau gosod am yr wythfed mis yn olynol.

Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos bod y gwasanaeth wedi derbyn mwy na 29,000 o alwadau ym mis Medi - 3%yn is nag ym mis Awst ond 6% yn fwy na mis Medi 2010.

Powys oedd yr unig sir i fethu'r targed.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth eu bod yn gweithio gyda'u staff, Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd i wella'r perfformiad.

Mae'r ffigyrau diweddara, dolen allanol yn dangos:

  • Fod ambiwlans wedi cyrraedd o fewn llai nag wyth munud mewn mwy na 7,600 (69.3%) o alwadau lle'r oedd bywyd mewn peryg

  • Roedd hynny'n uwch na'r targed o 65% sydd wedi ei osod, a hynny am yr wythfed mis yn olynol

  • Mae'r ffigwr fodd bynnag yn is na'r canran o 71.2% a gofnodwyd ym mis Gorffennaf a mis Awst

  • Roedd y perfformiad ym Medi yn amrywio o 78.7% yn Abertawe i 58.9% ym Mhowys

  • Powys oedd yr unig un o 22 awdurdod lleol lle'r oedd y ffigwr yn is na 60%.

Heblaw am y gaeaf, lle mae'r gwasanaeth yn dueddol o fod yn fwy prysur, mae'r gwasanaeth wedi llwyddo i gwrdd â'r targed o 65% ers dechrau 2009.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Tra ein bod wedi gwella ein perfformiad yn y rhan fwyaf o ardaloedd, rydym yn ymwybodol o wahaniaethau ar draws Cymru."

Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol