Scarlets: 'tebygol o adennill costau'
- Cyhoeddwyd
Mae tîm rygbi'r Scarlets wedi datgan nad ydynt mewn perygl ariannol er iddynt fod mewn dyled o £5.5m.
Mae cyfrifon y clwb o Lanelli yn dangos bron £3m o ddyled dros yr 17 mis tan ddiwedd mis Mehefin 2010 ac mae'r archwilwyr wedi datgan eu pryder am ddyfodol y clwb.
Ond mae prif weithredwr newydd Y Scarlets, Mark Davies, yn honni fod y clwb yn debygol o adennill ei gostau y tymor nesaf.
Dywedodd fod rhan helaeth o'r ddyled yn arian sy'n ddyledus i bedwar o gyfarwyddwyr y clwb sy'n hollol ffyddlon i'r Scarlets.
'hapus iawn'
Yn ôl cyfrifwyr a archwiliodd berfformiad ariannol y clwb mae 'na "ansicrwydd materol ynghylch dyfodol y clwb fel busnes hyfyw."
Ond dywedodd Mr Davies, a fu wrth y llyw ers mis Medi, fod y clwb wedi cymryd camau breision yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'n rhaid i'r cyfrifwyr ddweud hynny o safbwynt technegol," meddai Mr Davies wrth BBC Radio Cymru.
"Rydw i wedi treulio tipyn o amser gyda'r cyfrifwyr eleni...roedden nhw'n hapus iawn gyda'n cynnydd...maen nhw'n wirioneddol gredu yn ein cynllun pum mlynedd."
Benthycodd y Scarlets £2.4m oddi wrth Cyngor Sir Gâr i helpu i ariannu'r cynllun i symud o Barc y Strade i Stadiwm Parc y Scarlets.
Ond y llynedd dywedodd yr awdurdod lleol y gallen nhw ohirio'r llog ar y benthyciad am dair blynedd arall.
Mewn datganiad a ryddhawyd yr wythnos hon meddai'r awdurdod: "Mae'r clwb yn dal i gwrdd â'i gofynion o dan amodau prydles y stadiwm a'r benthyciad oddi wrth y cyngor."
Dywedodd Mr Davies y byddai'r clwb yn debygol o golli rhwng £600,000 a £700,000 eleni ond y byddai'n adennill ei gostau y tymor nesaf.
'Sicrhau cynaladwyedd'
Ychwanegodd mai rhan o'r cynllun oedd cynyddu'r refeniw gan wneud mwy o ddefnydd o'r stadiwm.
"Nid oes ateb hawdd i'r sefyllfa ond rwy'n hollol argyhoeddedig y byddwn ni'n cyrraedd ein nod.
"Yr her i'r busnes hwn yw nad yw refeniw rygbi yn ddigonol i gwrdd â chostau rygbi, ond trwy wneud mwy o ddefnydd o'n cyfleusterau... at ddibenion masnachu neu chwaraeon, gallwn sicrhau ein cynaladwyedd yn y dyfodol."
Dywedodd cyn-chwaraewr Llanelli, Cymru a'r Llewod, Roy Bergiers fod y clwb yn bwysig i ardal Llanelli.
Ychwanegodd fod y clwb yn denu ymwelwyr i'r dref yn ystod cyfnod pan mae diwydiant wedi dirywio.
"Dwi ddim yn gallu gweld y clwb yn mynd i'r gwellt,"meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011