'Bygythiad' i gynigion cyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad yn bygwth gwrthwynebu cynigion cyllideb Llafur os na fydd newidiadau mawr.
Y mis nesa fe fydd angen mwyafrif ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, cyn i'w gynlluniau gwariant gael eu cymeradwyo.
Mae'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi cyflwyno gwelliant ar gyfer y ddadl ddydd Mawrth, wedi dweud nad yw cyngion y gyllideb yn delio â blaenoriaethau.
Dywedodd y Ceidwadwyr fod angen mwy o wario ar y Gwasanaeth Iechyd tra bod Plaid wedi dweud bod angen hwb i gyllideb Menter.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid mwy o fuddsoddi mewn addysg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim yn synnu bod polisïau pleidiau eraill mewn cysylltiad â'r materion hyn yn wahanol.
"Rydyn ni am sicrhau cyllideb ar gyfer pobl Cymru ac fe fyddwn yn trafod hyn yn gyfrifol â'r pleidiau eraill."
30 o seddau
Gan fod gan Lafur 30 o seddau allan o 60 mae angen cefnogaeth o leia un blaid arall er mwyn cymeradwyo'r cynlluniau gwariant.
Dywedodd Peter Black, llefarydd cyllid y Democratiaid Rhyddfrydol, nad oedd cynlluniau'r llywodraeth yn ddigonol.
"Dyw blaenoriaethau Llafur ddim yn ateb gofynion pobl Cymru ac ni fydd y gyllideb o werth i'n heconomi, ysgolion na'r Gwasanaeth Iechyd."
Mae llefarydd cyllid y Ceidwadwyr, Paul Davies, wedi dweud mai nod y gwelliant oedd bod yn "adeiladol er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn atebol i bobl Cymru."
Sigledig
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones, eu bod nhw'n benderfynol o barhau i bwyso ar Lywodraeth Lafur i gymryd camau i helpu'r economi sigledig.
"Rwy wedi ei gwneud hi'n glir na allwn gefnogi'r gyllideb yn ei ffurf bresennol.
"Ond rwy'n edrych ymlaen at barhau i drafod â'r llywodraeth er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n mynd i'r afael yn ddigonol â'r diffygion presennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011