Caerdydd: Cyflwyno cynllun addysg newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd i ad-drefnu Ysgolion Uwchradd yn Nhrelederch a Llanrhymni yn nwyrain Caerdydd wedi eu cyflwyno gan gyngor y ddinas.
Mae'r cyngor am ailddatblygu Ysgol Uwchradd Trelederch i gynnwys disgyblion o'r ddwy ysgol.
Golygai hyn, na fydd y cyngor yn bwrw 'mlaen gyda cynllun dadleuol i godi ysgol newydd gwerth £22 miliwn ar gae chwarae lleol.
Mae cyfan yn rhan o gais gwerth £150 m gan gyngor Gaerdydd i Lywoddraeth Cymru er mwyn ad-drefnu addysg yn y sir.
Deiseb
Dywed y cyngor y bu'n rhaid iddynt newid eu cynlluniau gwreiddiol oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Bydd y cynllun newydd yn golygu y bydd Ysgol Gynradd Gymraeg yn agor yn Grangetown ac Ysgol cyfrwng Saesneg ym Mhontprennau.
Mae'r cyngor yn parhau gyda'u cynlluniau i adeiladu ysgol gwerth £9.8m yn Nhreganna yn lle Ysgol Tan yr Eos ac Ysgol Treganna.
Ond rhoddwyd y gorau i'r cynllun i gau Ysgol pen y Bryn, a does yna ddim bwriad nawr i ehangu Ysgol Pwll Coch.
Fe wnaeth 8,000 o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun i greu Ysgol Eastern High yn Nhredelerch.
Roedd ymgyrchwyr yn gwrthwynebu'r syniad i godi ysgol i 1,500 o blant rhwng 11 a 16 oed ar faes chwaraeon Trelederch.
'system addysg ddichonadwy'
Dywedodd y cyngor eu bod wedi ail ystyried eu cynlluniau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'r buddsoddiad yn eu rhaglen adeiladu ysgolion yn cael ei ostwng.
Y disgwyl oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu 70% o'r rhaglen pan gyflwynodd Cyngor Caerdydd eu cais am gyllid ym mis Rhagfyr 2010.
Ond erbyn hyn y bydd rhaid i gynghorau ganfod hanner yr arian eu hunain.
Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai'r cynllun arfaethedig yn golygu byddai £150m yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion yn y ddinas.
Dywedodd Freda Salway, yr aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am addysg: "Fe fydd rhaid inni ail ystyried ein cynllun i aildrefnu ysgolion am fod llai o arian ar gael.
"O ganlyniad mae ein cais i Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd digon o lefydd ar gael mewn ysgolion y ddinas i ateb y galw cyfredol a'r galw yn y dyfodol."