Ffôn Julie Morgan 'wedi ei hacio'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn brif weinidog Cymru Rhodri Morgan yn honni bod ffôn ei wraig, yr Aelod Cynulliad Julie Morgan, wedi cael ei hacio naw o weithiau rhwng 2005 a 2006.
Fe wnaeth Mr Morgan ei sylwadau mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd nos Iau.
Fe ddywedodd hefyd i'w wraig ac yntau gwrdd â Heddlu'r Met dair wythnos yn ôl i drafod yr honiadau.
Dywedodd Mrs Morgan bod y cwmni sy'n darparu gwasanaeth ffôn symudol wedi cysylltu â hi am alwadau a wnaed i'w ffôn symudol yn 2005 a 2006.
'Sioc fawr'
Dywedodd Mrs Morgan, a oedd yn Aelod Seneddol ar y pryd, ei bod wedi cael "sioc fawr".
Cafodd wybod gan Heddlu'r Met bod y galwadau wedi dod gan News International, perchnogion papurau newydd The Sun a'r News of the World.
Digwyddodd hyn pan oedd Mr Morgan yn brif weinidog a Mrs Morgan yn Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd.
Collodd hi ei sedd yn y senedd yn 2010, ond cafodd ei hethol i'r cynulliad ym mis Mai.
Dywedodd Mrs Morgan wrth y BBC: "Gwelais i restr y galwadau. Tua naw dwi'n meddwl,
"Dwi ddim yn cofio siarad gyda neb o News International, ond yr oedd hyn bum mlynedd yn ôl.
"Dywedodd yr heddlu bod posibilrwydd bod fy ffôn wedi cael ei hacio.
"Roedd yn destun gofid mawr".