Gary Speed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gary SpeedFfynhonnell y llun, bbc

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gary Speed, wedi marw.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod Speed, 42 oed, wedi ei ganfod yn farw.

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn drist iawn o orfod cyhoeddi marwolaeth rheolwr y tîm cenedlaethol, Gary Speed," medd y datganiad.

"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i'r teulu.

"Rydym yn gofyn i bawb barchu preifatrwydd y teulu yn y cyfnod trist iawn yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Caer: "Am 7:08am fore Sul, cafodd Heddlu Sir Caer wybod am farwolaeth sydyn mewn eiddo yn Huntington.

"Aeth swyddogion i'r safle a dod o hyd i ddyn 42 oed yn farw.

"Mae'r teulu agos wedi cael gwybod, ac wedi cadarnhau mai Gary Speed oedd y dyn.

"Does dim amgylchiadau amheus yn ymwneud a'r farwolaeth.

"Mae'r teulu wedi gofyn am gael llonydd i alaru yn y cyfnod anodd hwn. Bydd teyrnged gan y teulu yn cael ei gyhoeddi rhywbryd yn y dyfodol."

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu o'r farwolaeth.

Teyrngedau

Eisoes mae teyrngedau wedi cael eu talu i Gary Speed.

Daeth datganiad pellach gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud:

"Roedd pawb yn y Gymdeithas yn edmygu angerdd Gary Speed at ei waith. Wrth i amserlen gemau Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2014 gael ei chyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, roedd llawer i edrych ymlaen ato yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae'r drasiedi hon yn digwydd i rywun mor ifanc a thalentog yn golled enfawr nid yn unig i'w deulu a'i ffrindiau, ond i'r genedl."

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rwy'n drist iawn o glywed am farwolaeth Gary Speed.

"Mae hwn yn newyddion syfrdanol, ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar gyfnod sy'n siŵr o fod yn un anodd iawn iddyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Leeds United fod y clwb "wedi ei syfrdanu" o glywed am ei farwolaeth. Bydd y clwb yn cyhoeddi teyrnged llawn maes o law.

Un oedd yn rhan o dîm Cymru gyda Speed oedd Robbie Savage. Ar wefan Twitter dywedodd:

"Roeddwn i ar y ffon gyda Gary ddoe ac roedden ni'n chwerthin gyda'n gilydd yn siarad am bêl-droed a dawnsio.

"Roedd yn gyd-chwaraewr gwych ac yn gyfaill mynwesol."

Ar ei wefan Twitter, dywedodd capten Cymru, Aaron Ramsey: "Fe glywais i'r newyddion trasig bore 'ma. Rwyf wedi fy syfrdanu a dweud y lleiaf.

"Mae fy meddyliau a 'ngweddïau gyda theulu Gary.

"Heddiw mae'r byd wedi colli rheolwr pêl-droed gwych, ond yn bwysicach dyn ardderchog. Bydd colled i bawb ar ei ôl."

Gyrfa

Disgrifiad,

Swansea crowd pay tribute to Gary Speed

Cyn gêm Abertawe yn yr Uwchgynghrair yn erbyn Aston Villa brynhawn Sul, fel dalodd y dorf eu teyrnged eu hunain i Gary Speed.

Er i'r cyhoeddwr yn y stadiwm ofyn am funud o ddistawrwydd, fe ddechreuodd y dorf gymeradwyo a chanu enw Gary Speed.

Bu'n chwaraewr i nifer o glybiau yn yr Uwchgynghrair gan gynnwys Leeds, Newcastle ac Everton, ac enillodd 85 o gapiau i Gymru a bu'n gapten ar ei wlad.

Enillodd y bencampwriaeth gyda Leeds yn 1992, ac ef oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae 500 o gemau yn Uwchgynghrair Lloegr.

Ymddeolodd o bêl-droed rhyngwladol yn 2004, ac fe ddechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr yn Bolton, lle'r oedd yn chwarae ar y pryd.

Bu hefyd yn hyfforddwr gyda Sheffield United cyn derbyn y swydd gyda Chymru fel olynydd i John Toshack y llynedd.

Cafodd ei benodi'n rheolwr y tîm cenedlaethol yn Rhagfyr 2010, a bu'n gyfrifol am yr adfywiad diweddar yn hanes y tîm.

Cafodd yr MBE gan y frenhines yn 2010.

Mae'n gadael gwraig a dau o blant.