Mewn llun: Atgofion am Gary Speed
- Cyhoeddwyd

Gary Speed MBE 1969-2011: Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cadarnhau fod rheolwr y tîm cenedlaethol wedi marw yn 42 oed. Enillodd 85 o gapiau i Gymru

Chwaraeodd Speed ei gêm gyntaf i Leed yn 19 oed. Roedd yn aelod o'r tîm enilodd y bencampwriaeth yr hen Adran Gyntaf yn 1992 cyn i'r Uwchgynghrair ddechrau y tymor canlynol

Chwaraeodd Speed ei gêm gyntaf i Gymru yn 20 oed yn erbyn Costa Rica yn 1990. Yma mae'n chwarae yn erbyn Gwlad Belg yn 1993

Gadawodd Speed Leeds am Everton yn 1996 am £3.4m. Aeth ymlaen i fod yn gapten clwb Goodison Park

Newcastle oedd trosglwyddiad nesaf Speed am £5.5m yn 1998. Mewn chwe blynedd yn y gogledd-ddwyrain fe chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan yr FA ddwywaith ac ymddangos yng Nghynghrair y Pencampwyr

Treuliodd Speed bedair blynedd gyda Bolton o 2004. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae 500 o gemau yn yr Uwchgynghrair

Ymddeolodd Speed o bêl-droed rhyngwladol yn 2004 - yr un adeg ag y gadawodd Mark Hughes ei swydd fel rheolwr y tîm

Daeth ymddangosiad olaf Speed i Gymru yn 2004 yn erbyn Gwlad Pwyl yn Hydref 2004. Sgoriodd saith gol mewn 85 ymddangosiad - record i chwaraewr allanol - a bu'n gapten 44 o weithiau

Yn Ionawr 2008, aeth Speed i Sheffield United am £250,000 ond ymddeolodd o bêl-droed yn 2010

Cafodd Speed ei gyfle fel rheolwr yn Sheffield United yn Awst 2010

Yn Rhagfyr 2010, cafodd Speed ei benodi yn reolwr Cymru fel olynydd i John Toshack

Gêm olaf Speed gyda Chymru oedd y fuddugolaieth o 4-1 yn erbyn Norwy ar Dachwedd 12.

Roedd pêl-droedwyr, rheolwyr, gwleidyddion a'r cyhoedd yn talu teyrngedau lu i Speed - un o fawrion pêl-droed yng Nghymru - wrth glywed am ei farwolaeth ddydd Sul