'Y sêl Gymreig gyntaf ers amser Owain Glyndŵr'
- Cyhoeddwyd
Bydd cais yn cael ei gyflwyno'r mis hwn am gymeradwyaeth Frenhinol i ddefnyddio'r sêl Gymreig gyntaf ers cyfnod Owain Glyndŵr.
Cafodd y sêl ei chreu wedi'r bleidlais "Ie" yn y refferendwm eleni i ddatganoli rhagor o bwerau deddfu i'r Cynulliad.
Gan nad oes gan Gymru Arfbais Frenhinol, crëwyd delwedd newydd i'w gosod ar Ddeddfau'r Cynulliad.
Y Mint Brenhinol sydd wedi creu'r sêl hon a bwriad y dyluniad yw cynrychioli'r Frenhines a Chymru.
Yn y Mint yn Llantrisant ddydd Iau cafodd y Prif Weinidog Carwyn Jones gyfle i weld y sêl newydd.
'Cynrychioli'r pwerau'
"Mae'r sêl newydd hon yn bwysig iawn, yn gyfansoddiadol ac yn symbolaidd.
"Ym mis Mawrth roedd yr ymgyrch i roi rhagor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn fuddugoliaeth ysgubol.
"Roedd hon yn foment arwyddocaol yn hanes ein gwlad ac mae'r sêl yn cynrychioli'r pwerau newydd sydd wedi'u datganoli i ni ar ran ein cenedl."
Yn ôl Adam Lawrence, Prif Weithredwr a Dirprwy Meistr Y Bathdy Brenhinol: "Rydym wrth ein boddau i gael y cyfle i weithio'n agos gyda'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i greu'r sêl.
"Mae wedi bod yn anrhydedd cael defnyddio 1100 mlynedd o wybodaeth cynhyrchu a chrefftwriaeth i greu symbol corfforol i gynrychioli oes newydd i Lywodraeth Cymru"
Bydd y cais am Gymeradwyaeth yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor yn nes ymlaen y mis hwn.
Prif Weinidog Cymru fydd yn cyflawni rôl ffurfiol Ceidwad y Sêl.