Cinmel - plasty mwyaf Cymru
- Cyhoeddwyd

Roedd sôn bod 'na ddiddordeb rhyngwladol yn Neuadd Cinmel ond mae’r hanesydd pensaernïol, Mark Baker, yn rhybuddio y bydd yn rhaid i’r perchnogion newydd fod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau wrth brynu adeilad Gradd 1. “Nid oes adeiladau trafferthus, dim ond perchnogion trafferthus,” meddai.

Adeiladwyd y tŷ a welir heddiw yn y 1870au gan y pensaer W E Nesfield fel estyniad ac adnewyddiad i’r tai oedd eisoes ar y safle.

“Roedd yn sedd deuluol i’r Hughesiaid, a wnaeth eu harian o’r gwaith cloddio ar Fynydd Parys,” eglurodd Mark Baker. “Roeddent yn honni eu bod yn ddisgynyddion o lwythau hynafol Cymru.”

“Caiff y neuadd ei hadnabod fel ‘Versailles Cymru’ oherwydd ei maint,” ychwanegodd Mark Baker. “Y nod oedd creu tŷ calendr, gyda 360 o ffenestri, 12 mynedfa a 7 prif ystafell dderbyn.”

“Bu'r Dywysoges Fictoria yn ymweld â’r plasty yn y 1830au ac roedd gwraig Hugh Robert Hughes yn rhan o’i llys pan ddaeth yn frenhines. Roedd adeiladu tŷ gyda digonedd o le ar gyfer adloniant yn bwysig iawn yn yr adeg yma," ychwanegodd Mark Baker.

Ar ôl i'r teulu Hughes symud allan ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd y plasty ei ddefnyddio fel ysbyty, ysgol, dihangfa grefyddol a sba ar gyfer pobl gyda gwynegon. Ond mae’r adeilad wedi bod yn wag dros y degawd diwethaf.