Feto'n 'bygwth buddiannau Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ysgrifennnu at y Prif Weinidog, David Cameron, a dweud bod ei feto ar gytundeb ynglŷn â'r ewro yn "bygwth buddiannau cenedlaethol Cymru".
Roedd Mr Cameron wedi dweud yn y Senedd yn Llundain fod ei benderfyniad yn amddiffyn swyddi gwasanaethau ariannol yng Nghymru yn ogystal â'r Ddinas yn Llundain.
Dywedodd Mr Jones yn ei lythyr: "Dwi'n poeni am safbwynt newydd y Deyrnas Gyfunol yn yr Undeb Ewropeaidd wedi'r uwchgynhadledd yr wythnos diwetha.
"Dwi'n ofni y bydd y DG ar yr ymylon ar adeg pan y dylen ni fod yn y canol yn sbarduno trafodaeth am yr economi.
"Fy nghred i yw y bydd hyn yn bygwth buddiannau cenedlaethol Cymru."
50%
Dywedodd fod 50% o allforion Cymru i'r Undeb Ewropeaidd a bod angen gwarchod buddiannau hollbwysig drwy gyfrwng y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Hefyd, meddai, roedd y Cronfeydd Strwythurol yn rhan hanfodol o strategaeth economaidd Cymru.
Yn y Senedd yn Llundain fe wfftiodd Mr Cameron honiad Plaid Cymru ei fod yn "blaenoriaethu'r Ddinas" ar draul gweddill y Deyrnas Gyfunol.
Roedd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS, wedi dweud bod 90,000 o filltiroedd sgwâr yn y DG ond bod Mr Cameron yn rhoi sylw i un filltir sgwâr, y Ddinas.
Dywedodd Mr Cameron: "Dwi'n meddwl am bobol yn y diwydiant gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd.
'Teg'
"Dwi'n meddwl am y banciau, y cymdeithasau adeiladu, y busnesau yswiriant ar draws Cymru.
"Mae angen iddyn nhw wybod bod rheoleiddio teg yn Ewrop ..."
Yn ei lythyr dywedodd Mr Jones: "Mae'n ymddangos bod y safbwynt yn yr uwchgynhadledd wedi canolbwyntio dim ond ar fuddiannau diwydiant gwasanaethau ariannol Llundain.
"Mae gweithgynhyrchu yn hollbwysig i economi Cymru, o leia mor bwysig â'r diwydiant gwasanaethau ariannol ar lefel y DG."
Am y tro cynta, meddai, roedd yn poeni a allai Llywodraeth San Steffan hyrwyddo buddiannau Cymru yn Ewrop.
Dywedodd y dylai'r Pwyllgor Gweinidogol Cyfun drafod y mater yn fuan.
Yn y Senedd yn Llundain tra bod Mr Cameron yn dweud bod ei feto'n gywir, dywedodd Arweinydd yr Wrthblaid, Ed Miliband, fod penderfyniad y Prif Weinidog yn "drychineb ddiplomyddol".