Canser: Hwb ariannol o £2m

  • Cyhoeddwyd
Cell canser yn rhannuFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn canolbwyntio'n arbennig ar lewcemia myeloid acíwt

Mae canolfan canser yng Nghaerdydd wedi cael hwb ariannol gwerth £2 miliwn gan Ymchwil Canser y DU a Llywodraeth Cymru.

Rhoddir y grant i'r Ganolfan ar gyfer cyfnod o bum mlynedd rhwng 2012 a 2017.

Nod Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd yw datblygu biofarcwyr, sef dulliau therapiwtig newydd sbon o drin canser, a hefyd ehangu'r banc meinwe.

Mae'r ganolfan yn canolbwyntio'n arbennig ar lewcemia myeloid acíwt ac mae'n cynnal profion cyn-glinigol ar gyfryngau newydd a all arwain at driniaethau newydd o'r clefyd.

'Ansawdd uchel'

Mae'n canolbwyntio ar droi gwybodaeth am lwybrau moleciwlaidd yn fiofarcwyr ar gyfer canser y fron.

Dywedodd Pennaeth y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, yr Athro Keith Lloyd: "Mae rhwydwaith y Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr ymdrechion i ddatblygu ffyrdd newydd o drin canser.

"Mae'r Ganolfan yng Nghaerdydd yn arwain y profion ymchwil mwyaf yn y byd i Lewcemia Myeloid Acíwt.

"Canser o'r celloedd gwaed yw hwn, a gwelir tua 2,000 o achosion newydd ohono mewn oedolion yn y DU bob blwyddyn.

"Mae'n bosibl y bydd y gwaith a wneir yng Nghaerdydd yn arwain at ffyrdd newydd o drin y clefyd ac felly mae'n hollbwysig ei fod yn cael yr arian hwn."

Dywedodd Dr Joanna Reynolds, Cyfarwyddwr Canolfannau Ymchwil Canser y DU: "Mae Rhwydwaith Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal ymchwil canser o ansawdd uchel i gyflwr cynnar y clefyd, ac mae wedi codi statws Prydain yn y maes yn rhyngwladol.

"Mae'r arian wedi rhoi hwb i'r gwaith o ddatblygu rhai o'r cyffuriau trin canser newydd mwyaf addawol ac arloesol, sydd eisoes yn ymsefydlu fel triniaethau cydnabyddedig i ganser mewn cleifion yn y dyfodol.

"Rydym yn falch o gael cyfle i gefnogi'r fenter hon ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o lwyddiant yn y dyfodol."