HSBC i gau cangen wledig yn Llanandras

  • Cyhoeddwyd
Peiriant arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae HSBC yn bwriadu lleoli peiriant arian newydd yn y dref

Mae cangen wledig o fanc HSBC ym Mhowys i gau, gan adael tref gydag un banc yn unig.

Dywedodd Maer Llanandras, John Kendall, bod y penderfyniad i gau'r banc ar Fawrth 9 yn cael effaith difrifol ar y dref.

Dywedodd HSBC bod y gangen yn y dref yn un o'r rhai lleiaf proffidiol a bod nifer y cwsmeriaid wedi dirywio.

Caeodd y cwmni chwe changen yng Nghymru rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2011.

Roedd y rhain yn cynnwys Llandysul yng Ngheredigion a Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys.

Erbyn hyn mae wedi cau 17 cangen "sydd ddim yn cael eu defnyddio ddigon" ers 2009, ond dydi'r rhain ddim wedi bod mewn ardaloedd gwledig i gyd.

Deiseb

Mae dros 500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn cau cangen Llanandras.

Fe wnaeth Mr Kendall, Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed Kirsty Williams, y cynghorydd sir Garry Banks a chadeirydd siambr fasnach Rosamund Black gyfarfod gyda swyddogion o'r banc yn ddiweddar.

"Fe wnaethon nhw ddweud wrtho ni y bydd y banc yn cau ar Fawrth 9 a bod y penderfyniad yn 'di-droi'n-ôl'," meddai Mr Kendall.

"Bydd y penderfyniad gan HSBC yn cael effaith ddifrifol ar y dref.

"Bydd pobl nad oes ganddyn nhw fynediad at fancio ar y we yn dioddef, a dwi'n deall bod nifer o fusnesau wedi penderfynu newid eu cyfrifon i'r banc arall yn y dref sydd yn cael ei redeg gan Lloyds TSB."

Mae HSBC yn bwriadu lleoli peiriant arian newydd yn y dref, sydd â phoblogaeth o tua 2,400.

Dywedodd lefarydd ar ran HSBC: "Ar hyn o bryd mae'r gangen [yn Llanandras] ar agor am 18 awr yr wythnos yn unig.

"Ond mae defnydd cwsmeriaid o'r gangen wedi gostwng yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae bellach yn un o'r canghennau a ddefnyddir lleiaf yn y wlad."

Bydd y ddau aelod o staff yn Llanandras yn cael eu trosglwyddo i ganghennau lleol eraill.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol