Cymeriadau amlwg Roald Dahl ar stampiau

  • Cyhoeddwyd
Stamp Charlie and the Chocolate FactoryFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Charlie and The Chocolate Factory sy'n cael yr anrhydedd o fod ar y stamp dosbarth cyntaf

Hud gwaith awdur o Gaerdydd sy'n cael ei ddathlu ar stampiau diweddara'r Post Brenhinol.

Mae chwech o stampiau yn dangos cymeriadau eiconig Roald Dahl, o Charlie and the Chocolate Factory i Matilda.

Mae'r stampiau yn cael eu lansio ddydd Mawrth gan y Post Brenhinol.

"Dwi mor falch bod y Post Brenhinol wedi anrhydeddu fy nhad yn y fath fodd," meddai Ophelia Dahl.

Gwaith y dylunydd Quentin Blake, a oedd yn eiconig yng ngwaith Roald Dahl, sy'n ymddangos ar y stampiau.

Yn ogystal â'r stampiau yma, mae 30 mlynedd The BFG yn cael ei nodi gyda thaflen arbennig o bedwar stamp gyda golygfeydd o'r chwedl.

Cafodd Roald Dahl ei eni yn Villa Marie, Ffordd Y Tyllgoed yn Llandaf, yn 1916 i deulu oedd yn hanu o Norwy.

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Yr Eglwys Gadeiriol tan ei fod yn 8 oed.

"Fe wnaeth fy nhad ysgrifennu miloedd o lythyrau drwy gydol ei yrfa a dwi ddim yn credu ei fod wedi meddwl, rhyw ddydd y byddai ei gymeriadau ar stampiau," meddai merch yr awdur, Ophelia.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cymeriad Fantastic Mr Fox ar y stamp

"Fe fyddai wedi bod wrth ei fodd.

'Syniad gwych'

"Mae hi'n ffordd wych o gychwyn blwyddyn o ddathliadau i nodi 30 mlynedd ers i'r BFG gael ei argraffu.

"Mae'r stampiau yn syniad gwych ar gyfer y casglwyr a'r rhai sydd wrth eu bodd gyda'r gwaith."

Dywedodd Stephen Agar, llefarydd ar ran stampiau'r Post Brenhinol, bod llyfrau a straeon Roald Dahl yn wych ac yn ddiamser.

"Maen nhw wedi cyfoethogi bywydau cymaint o blant ac oedolion ar draws y byd.

"Rydym yn falch iawn o ddangos rhai o'r cymeriadau ar ein stampiau wrth i ni gychwyn rhaglen gyffrous o stampiau arbennig yn 2012."

Dywedodd y byddan nhw'n dathlu gwaith awdur arall, Charles Dickens, yn ddiweddarach yn y flwyddyn