Y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Dilys Elwyn-EdwardsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dilys Elwyn-Edwards yn adnabyddus am ei chaneuon ar gyfer y llais

Bu farw'r gyfansoddwraig glasurol Dilys Elwyn-Edwards yn 93 oed ar Ionawr 13.

Yn wreiddiol o Ddolgellau roedd hi'n adnabyddus oherwydd ei chaneuon ar gyfer y llais.

Ymysg ei gweithiau mwya enwog mae Mae Hiraeth yn y Môr wedi ei seilio ar eiriau soned R Williams Parry.

Dywedodd y Dr Pwyll ap Siôn o Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor: "Mi oedd hi'n wahanol i gyfansoddwyr benywaidd o Gymru o'i blaen hi, rhai fel Morfudd Llwyn Owen a Grace Williams oedd yn cyfansoddi cerddoriaeth i agenda eitha' gwrywaidd ac yn trio swnio fel dynion wrth gyfansoddi.

"Mi oedd Dilys yn cyfansoddi'r hyn yr oedd hi eisiau ei wneud ac mae'n gerddoriaeth delynegol, yn soniarus ac yn gytseiniol."

Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau cyn graddio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darlithydd

Roedd yn ddarlithydd cerdd yn y brifysgol cyn astudio gyda Herbert Howells yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.

Wedyn roedd yn dysgu yn Rhydychen pan oedd ei gŵr, Y Parchedig Elwyn Edwards, yn astudio yno.

Bu'n dysgu yn y Coleg Normal ym Mangor a Phrifysgol Bangor.

Roedd y rhan fwyaf o'i gweithiau yn ddarnau comisiwn ac maen nhw wedi cael eu perfformio yn gyson ar radio a theledu ac mewn cyngherddau ym Mhrydain a thramor.

Roedd Caneuon y Tri Aderyn, sy'n cynnwys Mae Hiraeth yn y Môr a'r Gylfinir, yn waith comisiwn y BBC yn 1961.