Achub dwy drwy neges ar wefan Facebook

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dwy ferch eu hachub o greigiau gan fad achub ar arfordir Sir Benfro wedi iddyn nhw anfon neges ar wefan Facebook.

Dywed yr RNLI yn Ninbych-y-Pysgod fod un o'u gwirfoddolwyr, Ross Edwards, yn digwydd bod ar y we ddydd Sul pan welodd y neges ar y wefan gymdeithasol.

Anfonodd neges at y merched, oedd ar greigiau ger Bae Waterwynch, Dinbych-y-Pysgod, gan eu cynghori i alw Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau.

"Roedd hi'n gyd-ddigwyddiad llwyr fod un o'n gwirfoddolwyr ar wefan Facebook," meddai Phil John o RNLI Dinbych-y-Pysgod.

'Sefyllfa anarferol'

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau eu bod wedi derbyn galwad gan y merched am 4pm ddydd Sul cyn lansio'r bad achub.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau roedd y merched "yn oer ond heb eu hanafu".

"Fydden ni byth yn annog pobl i ddefnyddio'r modd hwn, yn hytrach fe ddylen nhw ffonio 999 os byddan nhw mewn trafferth," meddai Mr John.

"Roedd hon yn sefyllfa anarferol a dydyn ni ddim am i bobl oedi cyn iddyn nhw alw am gymorth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol