'Yn falch o fod adre'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi o'r Bala gafodd ei barlysu ar ôl damwain gêm rygbi wedi dod adre o'r ysbyty.
Roedd Brian Davies neu Yogi i fod i chwarae ei gêm olaf i'r Bala yn 2007 pan gafodd yr anaf a cholli unrhyw deimlad o'i wddf i lawr.
Daeth adref o'r ysbyty 18 mis yn ddiweddarach ond bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r ysbyty wedi i un o'i ysgyfaint ddadchwyddo.
Dywedodd Brian na fyddai wedi dygymod "heblaw am bobl Cymru".
£200,000
Cafodd ei dŷ ei addasu wedi apêl gododd £200,000.
Roedd Brian wedi treulio 18 mis mewn ysbyty yn Southport.
Mae ganddo wyth gofalwr llawn amser ac un gofalwr rhan amser a rhaid i o leia' un fod yn ei gwmni drwy'r amser.
"Fyddwn i ddim wedi gallu dychwelyd adref heblaw am yr help gefais i gan bobl Cymru," meddai Brian sy'n byw gyda'i wraig, Sue, a dau o blant.
"Cyfrannodd pob clwb rygbi yng Nghymru ar gyfer y gronfa ac mae llawer o bobl yn dal i gyfrannu am nad ydan ni'n derbyn grant am ein gofynion.
"Mi faswn i'n byw yn Southport am byth heblaw am bobl Cymru."
Yn 2009 cyhoeddodd lyfr am ei brofiadau - Mewn Deg Eiliad - gan obeithio y byddai'n helpu unrhyw un yn yr un sefyllfa.