App ffôn i hybu diogelwch cerddwyr

  • Cyhoeddwyd
Tim achub mynydd yn helpu cerddwyrFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dynion ifanc o ardaloedd trefol yw’r rhai mwyaf tebygol o ffonio am gymorth

Mae ap ffôn newydd wedi ei lansio gyda'r gobaith o leihau'r galwadau mae Timau Achub Bywyd Gogledd Cymru yn ei dderbyn yn flynyddol.

Mae nifer y galwadau wedi bod yn cynyddu, gyda nifer fawr yn cael eu gwneud gan ddynion ifanc o ardaloedd trefol.

Bydd app Gwasanaethau Gwybodaeth Mynydda yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fynyddwyr a cherddwyr, yn ogystal â chyngor diogelwch traddodiadol fydd yn eu galluogi i gynllunio taith cerdded yn ddiogel yn Eryri.

Yn ystod 2011, cafodd 411 o alwadau cymorth ei wneud i dimau achub mynydd gyda'r timau yn cael eu galw allan 291 gwaith.

Mae ymchwil diweddar yn dangos bod nifer sylweddol o'r galwadau diangen sy'n cael eu gwneud gan ddynion ifanc nad oedd wedi paratoi'n ddigonol neu nad oedd ganddyn nhw'r sgiliau na'r offer angenrheidiol ar gyfer y daith.

"Fel Awdurdod, rydym yn gobeithio y bydd yr app yn adnodd defnyddiol ar gyfer ymwelwyr i Eryri," meddai Cyfarwyddwr Rheoli Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams.

Sgiliau angenrheidiol

"Mae'r prosiect hefyd yn cyfrannu tuag at agenda Iechyd a Lles Llywodraeth Cymru, o les seicolegol a chorfforol ymwelwyr, i les economaidd cymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol."

Ychwanegodd Elfyn Jones, Swyddog Cymru'r Cyngor Mynydda Prydeinig (BMC): "Er bod ymwelwyr yn gallu ymchwilio i'r ardal ar y rhyngrwyd cyn dod, efallai na fydd rhai yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddarllen a defnyddio mapiau.

"Dydyn nhw ddim wedi paratoi eu hunain i deithio'n ddiogel yn y mynyddoedd.

"Mae'r app yma yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer ymwelwyr sy'n cynllunio taith ar Yr Wyddfa a bydd yn eu helpu i benderfynu cyn cychwyn."

Yn ychwanegol i'r cynllun, bydd adroddiad dyddiol gan Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri ar gyflwr o dan draed a lefelau eira ar y mynyddoedd, yn ogystal â chlipio fideo byr yn dangos y ffordd i baratoi ar gyfer taith gerdded ar gael ar y we.

Cefnogir y bartneriaeth gan y Cyngor Mynydda Prydeinig, Hyfforddiant Arweinydd Mynydd (Cymru), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Swyddfa Dywydd a Phlas y Brenin (y Ganolfan Fynydd Genedlaethol), gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol