£18 miliwn i hybu cyflenwad tai Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tai terasFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy na 50 o ddatblygiadau yn elwa ar yr arian

Mae cynlluniau i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru i dderbyn £18.12 miliwn yn ychwanegol.

Y gobaith yw helpu adeiladwyr i orffen eu gwaith yn gynharach na'r disgwyl.

Bydd yr arian - ar gyfer rhaglen grant tai cymdeithasol Cymru - hefyd yn cael ei ddefnyddio hefyd i ariannu datblygiadau tai newydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd mwy na 50 o ddatblygiadau yn elwa ar yr arian, gan gefnogi'r gwaith o adeiladu tua 310 o dai fforddiadwy ledled Cymru.

'Hwb ffantastig'

Un o'r cynlluniau a fydd yn elwa ar y cyllid fydd datblygiad Albert Walk yn Nhreganna, Caerdydd.

Bydd y datblygiad sy'n cael ei arwain gan Gymdeithas Tai Taf yn derbyn £1.2 miliwn i gyflymu'r gwaith o adeiladu 15 o dai fforddiadwy, gan ryddhau cyllid i ddechrau adeiladu tai'r dyfodol yn gynharach na'r disgwyl.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai Adfywio a Threftadaeth, sy'n ymweld â'r safle heddiw: "Mae hwn yn hwb ffantastig i'r diwydiant tai ac adeiladu yng Nghymru.

"Bydd yr arian yn helpu cymdeithasau tai i gwblhau'r hyn y maen nhw wedi ymrwymo i'w wneud yn gynharach na'r disgwyl."

Mae Cymdeithas Tai Wales and West wedi cael mwy na £860,000 fel cymorth i godi 23 o dai fforddiadwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr a thua £760,000 ar gyfer 70 o dai yn Wrecsam.

Mae dros £330,000 wedi cael ei glustnodi i helpu Cymdeithas Tai Cantref i ddarparu pum cartref fforddiadwy yng Ngheredigion ac mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi cael cynnig £525,000 fel cymorth ar gyfer adeiladu saith o dai fforddiadwy.

Mae Cymdeithas Tai y Rhondda wedi cael £500,000 fel cymorth ar gyfer codi chwech o dai fforddiadwy yn Rhondda Cynon Taf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol