£750,000 i gyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach

  • Cyhoeddwyd
Coleg MenaiFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pob un o'r pum coleg yn cael £50,000 y flwyddyn

Mae grant o £750,000 wedi ei gyhoeddi i gynyddu nifer y cyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn colegau addysg bellach.

Bydd yr arian yn rhoi'r cyfle i bum coleg arall ymuno â'r cynllun Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews.

Bydd yr arian yn galluogi pob coleg i gyflogi hyrwyddwr i wella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i fyfyrwyr.

Y colegau sydd wedi'u dewis ar gyfer ymuno â'r cynllun Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd yw:

  • Coleg Pen-y-bont;

  • Coleg Menai;

  • Coleg Powys;

  • Coleg Sir Benfro;

  • Y Coleg, Ystrad Mynach.

Bydd pob un o'r pum coleg yn cael £50,000 y flwyddyn am y tair blynedd academaidd nesaf.

Ehangu

Byddan nhw'n ymuno â'r pedwar coleg arall sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun ers 2011, sef Coleg Gwent; Coleg Iâl; Coleg Ceredigion a Choleg Glan Hafren/Coleg y Barri/Cymdeithas Addysg y Gweithwyr De Cymru/Partneriaeth Colegau Cymunedol YMCA, ynghyd â'r pedwar coleg a dreialodd y rhaglen.

Y flwyddyn nesaf, bydd y cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pob coleg addysg bellach yng Nghymru.

Y nod yw cynyddu nifer y modiwlau a'r cyrsiau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Bydd hefyd yn creu'r cyfle i fyfyrwyr gynnal a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg trwy amrywiaeth o weithgareddau anffurfiol.

Gosodwyd nifer o amcanion er mwyn cyflawni'r nod hwn, fel sefydlu rhaglen fentora i staff y mae angen cymorth arnynt i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, a chynyddu nifer y staff sydd ar gael i adeiladu portffolios ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

'Mwy o gyfle'

Dywedodd Mr Andrews: "Dw i wrth fy modd o weld y cynllun hwn yn ehangu. Bydd yn creu mwy o gyfle i fyfyrwyr colegau addysg bellach allu parhau â'u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog ac yn cynnig ffordd o annog myfyrwyr i barhau i ddefnyddio'r iaith.

"Trwy ehangu'r cynllun, bydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach yn cael ei datblygu a'i chryfhau yn unol â'r targed yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

"Mae hefyd yn ategu ein Strategaeth newydd ar gyfer yr Iaith Gymraeg sydd â'r nod o greu mwy o gyfle i bobl allu defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol