Marwolaeth swyddog MI6: 'Dim cysylltiad gyda MI6'

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Williams: Er gwaethaf archwiliad post mortem ni chafodd achos marwolaeth ei gadarnhau.

Clywodd cwest nad oedd marwolaeth yr ysbïwr Gareth Williams yn gysylltiedig gyda'i waith yn y gwasanaeth cudd MI6.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Michael Broster fod yr ymchwiliad i farwolaeth Mr Williams wedi bod yn gwbl drwyadl ac nad oedd yna unrhyw ddylanwadu o'r tu allan.

Cafodd corff noeth Mr Williams, 31 oed o Ynys Môn, ei ddarganfod wedi'i gloi mewn bag chwaraeon yn ei fflat yn Pimlico ar Awst 23, 2010 ond er gwaethaf archwiliad post mortem ni chafodd achos marwolaeth ei gadarnhau.

Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Broster, o SO15 - uned gwrth derfysgaeth Heddlu'r Met, ei fod o'r farn nad oedd unrhyw gysylltiad hyd yn hyn wedi ei ddarganfod rhwng y farwolaeth a gwaith Mr Williams gydag MI6.

SO15 oedd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i'r ymchwiliad i farwoaleth Mr Williams.

Offer electroneg

Cafodd cyfrifiaduron Mr Williams eu cymryd o MI6 bedwar diwrnod ar ôl ei farwolaeth, ac o ganolfan glusfeinio GCHQ chwe diwrnod ar ôl ei farwolaeth.

Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Broster wrth y crwner nad oedd unrhyw reswm i gredu bod rhywun wedi 'amharu' ar dystiolaeth gafodd ei gymryd o bencadlys MI6.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Williams ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng am 3.05pm ar Awst 16 2010

"Ni allaf ddweud yn bendant nad oedd ymyrraeth ar offer electroneg o MI6, ond does gennyf ddim rheswm i feddwl bod hynny wedi digwydd."

Dyw heddlu Scotland Yard heb benderfynu achos marwolaeth Mr Williams, na chwaith wedi penderfynu ai ef wnaeth gloi'r bag.

Enw gwahanol

Ddydd Mawrth dywedodd plismones, y ditectif prif arolygydd Jackie Sebire, ei bod hi o'r farn fod rhywun arall yn bresennol.

Mae un arall o ffrindiau Mr Williams hefyd wedi bod yn rhoi tystiolaeth gerbron y cwest.

Dywedodd Elizabeth Guthrie fod Mr Williams yn defnyddio enw gwahanol wrth ei galw, ac yn aml yn galw gan ddefnyddio ffonau gwahanol.

Ychwanegodd nad oedd hi'n credu bod y dillad i fenywod y cafwyd hyd iddo yn ei fflat ar gyfer ei ddefnydd personol.

"Fy marn yw nad oedd Gareth yn gwisgo dillad merched, fyddai ganddo fo ddim diddordeb."

Dillad isaf

Dywedodd pan iddi siarad â Mr Williams ddiwethaf ei fod o "mewn hwyliau da fel arfer" ond ei fod yn edrych ymlaen at adael Llundain.

Yn ystod bore Mercher cafodd tystiolaeth ysgrifenedig ei gyflwyno gan berchennog tŷ gwely a brecwast lle bu Mr Williams yn aros yn Cheltenham.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Williams yn byw yn y fflat yma tra'r gweithio yn Llundain

Dywedodd Jennifer Elliot iddi glywed rhywun yn galw am help yn oriau man y bore.

Cafodd hyd i Mr Williams yn ei ddillad isaf ar ôl iddo glymu ei hun i'r gwely.

Roedd Mr Williams wedi dweud ei fod yn ceisio gweld a oedd yn gallu rhyddhau ei hun, ond roedd hi o'r farn fod y weithred yn un rhywiol.

Dywedodd fod Mr Williams mewn embaras ac iddo ymddiheuro am y digwyddiad.