HSBC yn cwtogi swyddi yng Nghymru a thu hwnt

  • Cyhoeddwyd
Cangen HSBCFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 7,000 o swyddi eu torri y llynedd

Mae banc HSBC wedi cadarnhau y bydd yn cael gwared ar dros 2,200 o swyddi yn y DU fel rhan o gynlluniau byd-eang i wneud toriadau.

Mae dros 3,100 o swyddi yn cau ond bydd swyddi newydd yn cael eu creu, gan olygu y bydd 2,217 o staff yn gadael.

Yn ôl llefarydd, fe fydd hyd at 100 o swyddi yn mynd yn eu canolfan alwadau yn Abertawe.

Mae staff HSBC yng Nghymru yn cael eu hysbysu o'r manylion ddydd Iau.

Y bwriad yw torri 30,000 o swyddi drwy'r byd erbyn 2013 ac arbed $3.5 biliwn y flwyddyn.

Dywedodd undeb Unsain eu bod yn anfodlon ac y bydden nhw''n ymgyrchu yn erbyn y toriadau.

Mae'r banc wedi dweud y byddan nhw'n ceisio adleoli cymaint o'r staff â phosib.

Dim cau canghenau

Cadarnhaodd hefyd fod rheolwyr cynllunio ariannol yn cael eu diswyddo a bod rheolwyr wedi cael eu galw i gyfarfodydd ddydd Iau.

Fydd 'na ddim canghennau o'r banc yn cau yng Nghymru.

"Does 'na ddim cyfiawnhad am drin staff mor wael," meddai Prif Swyddog Prydeinig Unsain, David Fleming, gan nodi bod y banc wedi gwneud elw byd-eang y llynedd o 313.8 biliwn.

Ychwanegodd HSBC y byddai'r toriadau'n effeithio ar uwchreolwyr a rheolwyr lefel ganolig, swyddi gydag "ychydig o gysylltiad gyda'r cyhoedd".

"Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ailstrwythuro HSBC, i leihau gwahanol lefelau o reolwyr a biwrocratiaeth," meddai Brian Robertson, Prif Weithredwr Banc HSBC.

"Fe fydd y newidiadau yma yn gwella ein heffeithiolrwydd, yr hyn nodwyd yn ein strategaethi."

Y llynedd fe wnaeth y banc dorri 7,000 o swyddi ym myd-eang gan adael tua 288,000 o weithwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol