Cwest: Eitemau 'heb eu rhoi i'r heddlu'

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl rheithfarn yng nghwest Gareth Williams ddydd Mercher

Mae cwest wedi clywed nad oedd MI6 wedi trosglwyddo "llawer o eitemau" ysbïwr i'r heddlu yn ystod ymchwiliad i'w farwolaeth.

Cafwyd hyd i gorff noeth Gareth Williams, 31 oed o Ynys Môn, mewn bag North Face mewn bath yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst 2010.

Clywodd y cwest hefyd nad oedd prif dditectif yr ymchwiliad yn gwybod bod bag tebyg i'r un North Face, ynghyd â naw ffon gof o eiddo Mr Williams, wedi eu darganfod yn y swyddfa tan fore Llun.

Roedd y gwasanaethau cudd wedi edrych ar "gyfryngau electronig" Mr Williams heb yn wybod i'r heddlu, yn ôl y ditectif sy'n arwain yr ymchwiliad.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jackie Sebire y byddai hi "wedi disgwyl cael clywed" am yr eiddo yn 2010.

Gwybodaeth 'sensitif'

"Roeddwn i'n gwybod bod cyfrifon e-bost Gareth wedi cael eu harchwilio ond doeddwn i ddim yn gwybod eu bod wedi edrych ar gyfryngau eraill," meddai.

Ychwanegodd nad oedd yn synnu bod Mr Williams wedi gadael ffyn cof yn ei swyddfa "o ystyried natur ei waith".

Wrth gael ei holi am yr archwiliad o swyddfa MI6 Mr Williams, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Colin Hall o SO15, uned gwrth derfysgaeth Heddlu'r Met, nad oedd wedi cadw'r ffyn cof am iddo gael gwybod eu bod yn cynnwys gwybodaeth "sensitif".

Dywedodd nad oedd wedi cadw'r bag North Face du y daethpwyd o hyd iddo o dan ddesg yr ysbïwr "am fy mod wedi cael gwybod nad oedd unrhyw beth yn ymwneud â marwolaeth Gareth ynddo."

"Cafodd y bag ei archwilio ond chafodd dim ei gadw ... roedd yn cynnwys eitemau gwaith a phethau personol."

'Dilyn gorchmynion'

Cafodd Mr Hall ei gyhuddo gan fargyfreithiwr teulu Mr Williams o fethu â chymryd y dasg o ddifrif oherwydd bod 'na gysylltiad gyda'r gwasanaethau cudd.

Ond dywedodd Mr Hall nad oedd ei dîm wedi gorffen yr archwiliad ym mhencadlys Vauxhall am iddyn nhw gael gorchymyn i roi'r gorau iddi gan uwchdditectif.

"Rwy'n dilyn gorchmynion," ychwanegodd.

Mae'r cwest i farwolaeth yr ysbïwr yn gwrando ar grynodeb o'r dystiolaeth ac mae disgwyl rheithfarn ddydd Mercher.