Bac 'yn effeithio ar berfformiad'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil wedi awgrymu y gallai cymhwyster effeithio ar berfformiad myfyrwyr prifysgol.
Y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd sydd wedi awgrymu nad yw israddedigion sydd wedi cwblhau'r Bac Cymreig yn perfformio cystal.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi addo edrych yn fwy manwl ar effaith y Bac Cymreig wrth adolygu cymwysterau ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed.
Nod y Bac, gafodd ei gyflwyno 10 mlynedd yn ôl, yw darparu "addysg fwy cyflawn".
Erbyn hyn, mae mwy na 250 o ysgolion, colegau a hyfforddwyr yn darparu'r cymhwyster a 67,000 yng Nghymru yn ei astudio.
17,000
Prifysgol Caerdydd gomisiynodd ymchwil ddadansoddodd berfformiad 17,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys marciau diwedd blwyddyn, cyfraddau methu a mathau o radd.
Dywedodd yr Athro Gareth Rees, cyfarwyddwr y sefydliad arweiniodd yr ymchwil, ei fod yn synnu at y canlyniadau.
"Maen nhw'n codi'r cwestiwn canlynol - pa mor effeithiol yw'r cymhwyster wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch?"
Ond pwysleisiodd eu bod wedi dadansoddi manylion nifer gymharol fach o fyfyrwyr.
"Canlyniadau un brifysgol yw'r rhain ac os yw'r mathau hyn o ganlyniadau yn wir am brifysgolion eraill, bydd rhaid mynd i'r afael â'r mater ..."
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus adolygiad y llywodraeth yn dechrau ym Mehefin.
'Pwyntiau pwysig'
Dywedodd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a'r un sy'n arwain yr adolygiad, fod ymchwil y sefydliad "wedi codi pwyntiau pwysig".
Roedd yn ymwybodol, meddai, o feirniadaethau ond roedd mwyafrif y dystiolaeth yn awgrymu bod y Bac Cymreig "yn brofiad positif oedd yn ehangu'r meddwl".
Ysgrifennodd Tomos Povey, 19 oed, myfyriwr hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, at ei AS, David Davies, a dweud ei fod "wedi ei gamarwain".
"Roedden ni i gyd o dan yr argraff ei fod yn cyfateb i radd A ... wnes i feddwl: 'Ffantastig, dim arholiad' ond wedyn pan oedden ni'n gwneud cais am lefydd prifysgol dim ond rhai oedd yn derbyn y Bac Cymreig fel gradd A."
Mae'r Cydbwyllgor Addysg wedi dweud eu bod yn ymchwilio i effaith y Bac ar raddau TGAU a Lefel ac wedi ariannu doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eye on Wales, 1:04pm, ddydd Sul