Lansio antur fawr yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y prosiect a'r brand "Eryri - un antur fawr" yn cael ei lansio yn swyddogol ar stondin Cyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Eryri.
Bwriad prosiect 'Eryri - un antur fawr', ydi datblygu Meirionnydd fel canolfan ragoriaeth o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaeth antur, fel rhan o brosiect £4 miliwn i gefnogi economi, busnesau a chymunedau'r ardal.
Bydd y prosiect, a gefnogir gan arian Ewropeaidd, yn datblygu sector anturiaethau awyr agored yr ardal - i ddenu ymwelwyr newydd i'r ardal ac i annog ymwelwyr presennol i ddychwelyd.
Mae'r prosiect hefyd yn ceisio lledaenu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol i fusnesau a chymunedau lleol trwy well cyfleusterau a chyfleoedd busnes.
Cyfleoedd antur
"Mae ardal Meirionnydd y sir yn un o gyrchfannau twristiaid mwyaf poblogaidd y DU, gan ddenu miloedd i fwynhau ei olygfeydd godidog, cefn gwlad arbennig a gweithgareddau awyr agored bob blwyddyn," meddai'r Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi Cyngor Gwynedd.
"Mae prosiect 'Eryri - un antur fawr' yn dwyn ynghyd nifer o bartneriaid allweddol yn y maes arbennig hwn er mwyn creu a datblygu'r cyfleoedd antur awyr agored trwy bedwar safle allweddol ym Meirionnydd."
Y pedwar safle allweddol sy'n cymryd rhan yn y prosiect ydi Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog; Comisiwn Coedwigaeth Cymru - Coed-y-Brenin, Dolgellau; Cymdeithas Bysgota Prysor, Trawsfynydd; a Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Y Bala.
Mae'r logo wedi ei ddatblygu i'w ddefnyddio ar y cyd â'r brand 'Eryri Mynyddoedd a Môr'.
Y partneriaid y tu ôl i'r prosiect £4 miliwn yma, a dderbyniodd arian o Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ydi Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Bysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.